Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/03/2023

Mae Cyllid Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (CAF CCBY) yn rhoi £400 i helpu gyda biliau ynni i aelwydydd sydd heb fesurydd ynni domestig neu nad ydynt yn talu biliau yn uniongyrchol i gyflenwr ynni.

Mae’r cymorth yn cael ei ddarparu gan Llywodraeth y DU ac yn cael ei roi gan awdurdodau lleol. 

Mae'r cynllun bellach ar agor i bob cartref cymwys tan 31 Mai 2023. 

 

Cymhwysedd

Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais os yw eich prif gartref: 

  • yn gartref parc preswyl fel cartref symudol neu garafán statig
  • ar gwch ar angorfa breswyl barhaol 
  • ar safle Sipsiwn a Theithwyr parhaol 
  • yn rhan o rwydwaith gwres heb fesurydd trydan 
  • mewn llety rhent cymdeithasol neu breifat sydd â chysylltiad ynni busnes neu gyflenwad trydan cymunedol 
  • oddi ar y grid trydan neu nwy
  • mewn cartref gofal neu gyfleuster byw â chymorth ac rydych yn talu am rywfaint neu'ch holl ofal (yn uniongyrchol neu drwy golli pensiwn neu fudd-daliadau eraill)
  • mewn cartref domestig ar wahân o fewn eiddo annomestig (megis ffermdy neu fflat uwchben siop) 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan GOV.UK.

 

Sut i wneud cais

Os ydych yn gymwys, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen gais ar wefan GOV.UK​.

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais trwy ffonio 08081 753 287. 

Bydd eich cais yn cael ei brosesu gan Lywodraeth y DU, nid y Cyngor.  

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, rhennir eich manylion â'r Cyngor a fydd yn gwneud y taliad.  Bydd y taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc mewn un rhandaliad.