Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Os ydych chi'n derbyn Gostyngiad Treth Gyngor a bod eich amgylchiadau (neu amgylchiadau aelod o'ch aelwyd) yn newid, mae'n rhaid ichi gysylltu â ni ar unwaith oherwydd gall hyn effeithio ar faint o ostyngiad Treth Gyngor y byddwch chi'n ei dderbyn.

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau y dylech ddweud wrthym amdanynt:

  • Os ydych yn newid cyfeiriad
  • Os ydych yn dechrau derbyn Credyd Cynhwysol
  • Newid yn eich incwm neu incwm aelod o'ch aelwyd (e.e. partner, plant neu bobl eraill sy'n byw gyda chi).
  • Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch aelwyd yn stopio derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm) neu Gredyd Pensiwn (Credyd Gwarant).
  • Newid o ran y preswylwyr yn eich aelwyd h.y. os oes rhywun yn symud i mewn/allan.
  • Os ydych chi, eich partner neu aelod o'ch aelwyd yn dechrau gweithio.
  • Os ydych chi'n cael eich carcharu.
  • Os oes unrhyw un o'ch plant yn gadael ysgol.
  • Os yw swm eich taliadau gofal plant yn newid.
  • Os ydych chi'n gadael eich cyfeiriad am gyfnod dros dro e.e. os byddwch chi'n cael eich derbyn i'r ysbyty neu i ofal preswyl.
  • Os ydych chi'n penderfynu aros yn barhaol mewn gofal preswyl neu gartref nyrsio.
  • Os ydych chi’n mynd dramor am fwy na 3 mis

Bydd angen i ni gael prawf o unrhyw newidiadau.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i ni weld dogfennau ategol gwreiddiol megis eich slipiau cyflog os yw'ch cyflog/swydd wedi newid. Os nad ydych chi'n gallu darparu'r dogfennau ategol ar unwaith, peidiwch ag oedi cyn dweud wrthym am y newid. Sylwch os ydych chi'n derbyn Gostyngiad Treth Gyngor, mae dal angen ichi ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau hyd yn oed os ydych chi wedi rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau