Twyll Budd-daliadau

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2024

Os ydych yn credu bod rhywun yn cyflawni twyll Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gallwch roi gwybod i ni gan e-bostio fraud@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 742129 a byddwn yn ymchwilio i'r mater. Os ydych yn credu bod rhywun yn cyflawni twyll budd-daliadau neu fathau eraill o dwyll budd-daliadau, bydd angen i chi rhoi wybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Genedlaethol (NBFH).

Gwahanol fathau o dwyll:

  • Rhoi gwybod am rywun sy'n gweithio, ond sydd heb ddatgan hynny
  • Rhoi gwybod am rywun sy'n hawlio Gostyngiad y Dreth Gyngor drwy dwyll fel person sengl.
  • Rhoi gwybod am rywun sydd ag asedau heb eu datgan
  • Rhoi gwybod am rywun sydd heb ddatgan ei holl gynilion neu gyfalaf
  • Rhoi gwybod am rywun sy'n hawlio budd-dal mewn un cyfeiriad ac sy'n byw rhywle arall
  • Rhoi gwybod am fathau eraill o dwyll megis heb ddatgan incwm neu heb ddatgan bod person arall yn byw yn yr eiddo (e.e. lletywr neu aelod o'r teulu) ac ati.

Mae'n rhaid inni gael rheswm da dros ymchwilio i rywun am dwyll felly bydd y ffurflen yn gofyn ichi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid ichi roi eich enw nac unrhyw fanylion cyswllt os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Bydd angen i chi ddarparu:

  • Enw a chyfeiriad y person rydych yn rhoi gwybod amdano
  • Disgrifiad o'r person
  • Y math o dwyll budd-daliadau yr ydych yn credu ei fod yn ei gyflawni a pham rydych yn credu hyn
  • Gwybodaeth am ei gyflogwr, os ydych yn credu ei fod yn gweithio
  • Manylion am bartner nad ydyw wedi ei ddatgan o bosib, ac ati.

Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn gwbl gyfrinachol ac nid oes rhaid ichi roi eich enw nac unrhyw fanylion cyswllt os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Hefyd gallwch roi gwybod am dwyll budd-daliadau dros y ffôn, lle byddwch yn siarad â rhywun sydd wedi cael ei hyfforddi'n arbennig i ateb eich galwad. Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Genedlaethol (NBFH), dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am tan 6.00pm ar 0800 854 440, mae ganddynt hefyd linell gymorth iaith Gymraeg benodol ar 0800 678 3722. Os ydych chi'n gwybod neu'n amau bod rhywun yn cyflawni twyll, rhowch wybod am hynny.

Beth sy'n digwydd ar ôl ichi roi gwybod am rywun?

Os ydych yn rhoi gwybod am dwyll Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, byddwn yn edrych ar y wybodaeth rydych yn ei rhoi ac os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth byddwn yn gallu gwirio hawliad y person ond ni chaniateir inni ddweud wrthych am ganlyniad ein hymchwiliadau.

Bydd Gwasanaeth Twyll a Gwallau y DWP yn ystyried y wybodaeth rydych yn ei darparu. Os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth, bydd yn gallu gwirio hawl y person i'r budd-dal.

Os ydych chi'n adrodd mathau eraill o dwyll budd-dal, bydd Gwasanaeth Twyll a Gwallau y DWP yn ystyried y wybodaeth rydych yn ei darparu. Os ydych wedi rhoi digon o wybodaeth, bydd yn gallu gwirio hawl y person i'r budd-dal.Ni chaniateir i'r Gwasanaeth Twyll a Gwallau ddweud wrthych am ganlyniad ei ymchwiliadau.

Weithiau ni fydd unrhyw gamau'n cael eu cymryd. Efallai bod y person wedi datgan newid yn ei amgylchiadau ac nid yw hynny'n effeithio ar ei fudd-dal. Hefyd, mae'n bosibl nad yw'r person yn hawlio budd-dal ac felly nid oes angen ymchwiliad. Byddwn yn cymryd camau gweithredu os byddwn yn canfod bod y person wedi bod yn cyflawni twyll. Gall camau gweithredu gynnwys adennill unrhyw ordaliad, atal rhoi Gostyngiad y Dreth Gyngor i'r person, rhoi cosb ariannol neu ei erlyn yn y llys.

Yn yr un modd, bydd y Gwasanaeth Twyll a Gwallau yn cymryd camau gweithredu os yw'n canfod bod y person wedi bod yn cyflawni twyll budd-daliadau. Gall camau gweithredu gynnwys atal budd-daliadau rhywun a'i erlyn yn y llys.