Ffynonellau gwybodaeth eraill
Diweddarwyd y dudalen ar: 14/01/2022
Mae'r Tîm Treftadaeth Adeiledig ar gael i ateb eich cwestiynau a gellir cysylltu â nhw yng Nghanolfan Tywi. Os yw eich cynnig yn debygol o gael effaith ar adeilad rhestredig Gradd I (un) neu II* (dwy seren), cymeriad a golwg Ardal Gadwraeth (safle dros 1000 metr sgwâr), Heneb Gofrestredig, Maes Brwydr Rhestredig neu Barc a Gardd Restredig Gradd I (un) neu II* (dwy seren), rydym yn eich cynghori'n gryf i gysylltu â Cadw i gael cyngor cyn cyflwyno cais.
Fel arall, efallai yr hoffech gyflogi Pensaer Cadwraeth neu Ymgynghorydd Treftadaeth/Cynllunio sy'n gallu eich cynghori ymhellach yn ystod y cyfnod cynnar hwn. Bydd Syrfewyr a Phenseiri Cadwraeth arbenigol wedi gorfod dangos i'w sefydliad aelodaeth broffesiynol (e.e. Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain - RIBA, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig - RICS, Sefydliad Siartredig Adeiladu - CIOB) eu bod yn meddu ar brofiad cydnabyddedig o gadwraeth. Wedyn byddant yn gallu galw eu hunain yn 'Bensaer Cadwraeth' neu'n 'Aelod Achrededig Cadwraeth'.
Mae aelodaeth y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol - IHBC hefyd yn dangos fod gweithiwr proffesiynol yn ymwybodol o faterion mewn perthynas â chadwraeth adeiladau hanesyddol.
Nid ydym yn cymeradwyo ymgynghorwyr, contractwyr na chyflenwyr, ond dyma rai cynghorion syml i'ch helpu i ddewis yr ymgynghorydd proffesiynol, adeiladwr neu grefftwr cywir.
Pensaer neu syrfëwr adeiladu
Nid yw pob pensaer a syrfëwr yn gyfarwydd â gweithio gydag adeiladau hanesyddol a thechnegau adeiladu traddodiadol, felly dewiswch rywun sy'n bodloni'r canlynol:
- Rhywun sy'n meddu ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol.
- Gorau oll rhywun sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn cadwraeth adeiladau.
- Perthyn i gorff proffesiynol priodol, megis Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol (IHBC), neu'n Arbenigwr Cadwraeth gyda Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) neu'r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CIOB).
- Gorau oll rhywun sydd wedi cael ei argymell ichi ar ôl iddo/iddi gyflawni gwaith da ar eiddo hanesyddol.
- Rhywun sy'n gallu rhoi manylion ichi ynglŷn â phrosiectau blaenorol y mae wedi gweithio arnynt sy'n debyg i'ch un chi a threfnu eich bod yn ymweld â'r eiddo ac yn siarad â'r perchnogion.
Yn ogystal â chyflawni archwiliadau cynnal a chadw ar eich rhan, bydd pensaer neu syrfëwr adeiladu yn gallu rhoi cyngor ichi ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud a sut. Os yw'n angenrheidiol, gall baratoi manyleb, gwneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig, ceisio dyfynbrisiau cystadleuol gan adeiladwyr addas, a goruchwylio'r prosiect i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni i safon briodol.
Er y codir tâl arnoch am y gwaith hwn, gallai penodi ymgynghorydd proffesiynol ar gyfer unrhyw beth heblaw am fân atgyweiriadau arbed arian ichi yn yr hirdymor drwy sicrhau mai dim ond gwaith angenrheidiol sy'n cael ei gyflawni, ei fod yn cael ei gyflawni'n iawn ac y codir tâl teg arnoch.
Peiriannydd strwythurol
Os ydych wedi nodi problem a allai gael effaith ar gadernid strwythurol eich adeilad, megis wal neu strwythur to sy'n symud, mae'n bosibl y bydd angen ichi gael cyngor gan beiriannydd strwythurol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich pensaer neu syrfëwr yn gallu argymell rhywun sy'n meddu ar brofiad addas o gadwraeth. Fel arall, cysylltwch â Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE) i gael manylion cyswllt peirianwyr addas.
Adeiladwyr a chrefftwyr
Mae'n hanfodol eich bod yn dewis adeiladwr neu grefftwr sy'n meddu ar y sgiliau cadwraeth priodol a'r wybodaeth ar gyfer y gwaith dan sylw. Bydd angen i chi fod yn hyderus y byddant yn gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol yn unig. Er enghraifft, dylai ffenestri gael eu hatgyweirio lle bynnag y bo modd, yn hytrach na gosod rhai newydd.
Nid yw pob adeiladwr yn gyfarwydd â defnyddio technegau adeiladu traddodiadol, felly dewiswch rywun sy'n bodloni'r canlynol:
- Rhywun sy'n meddu ar y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad angenrheidiol. Yn ddelfrydol, dylai'r adeiladwr neu'r crefftwr allu rhoi tystiolaeth o'i allu i gyflawni'r gwaith sydd ei angen, a allai gynnwys meddu ar Gerdyn Sgiliau Treftadaeth.
- Gorau oll, rhywun sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn cadwraeth adeiladau.
- Gorau oll, rhywun sydd wedi cael ei argymell ichi ar ôl iddo/iddi gyflawni gwaith da ar eiddo hanesyddol.
- Rhywun sy'n gallu rhoi manylion ichi ynglŷn â phrosiectau blaenorol y mae wedi gweithio arnynt sydd yn debyg i'ch un chi a threfnu eich bod yn ymweld â'r eiddo ac yn siarad â'r perchnogion.
Gellir dod o hyd i restr contractwyr Treftadaeth ac arbenigwyr cadwraeth ar wefan Fforwm Adeiladau Traddodiadol Cymru.
Nid yw'r rhain yn cael eu hargymell gan Gyngor Sir Caerfyrddin, ond maent yn gwneud yr holl waith ar adeiladau hanesyddol.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Cynaliadwy
Torri rheolau cynllunio
Adeiladu tŷ newydd
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Brosiectau Cynllunio Mawr
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cynllunio Ecoleg
- Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
- Budd Net i Fioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
- Targedau ffosffad newydd
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio