Ardaloedd cadwraeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Mae Ardaloedd Cadwraeth wedi eu neilltuo er mwyn diogelu a gwella cymeriad arbennig ardaloedd sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried neilltuo'r cyfryw ardaloedd o dan Adran 69 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Mae diddordeb arbennig ardal gadwraeth yn cael ei fynegi drwy gyfuniad o nodweddion. Mae enghreifftiau o'r nodweddion hyn yn cynnwys:

  • patrwm aneddiadau
  • y ffordd y mae gofod a lleiniau adeiladu wedi'u trefnu
  • rhwydwaith o lwybrau
  • arddull adeiladau a math o adeiladau, gan gynnwys eu deunyddiau/manylion

Mae seilwaith gwyrdd yn bwysig hefyd a gall parciau, gerddi, perthi, coed a nodweddion dŵr oll gyfrannu at gymeriad ardal gadwraeth.

Mae gan Sir Gaerfyrddin 27 o ardaloedd cadwraeth sydd wedi'u dynodi am eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

  • Abergorlech
  • Cenarth
  • Cwmdu
  • Cydweli
  • Talacharn
  • Llanboidy
  • Llanddarog
  • Llandeilo
  • Llanymddyfri
  • Llanelli
  • Llangadog
  • Llangathen
  • Llansaint
  • Llansteffan
  • Castellnewydd Emlyn
  • Sanclêr
  • Talyllychau

A'r canlynol yng Nghaerfyrddin:-

  • Tref Caerfyrddin
  • Heol Awst
  • Gogledd Caerfyrddin
  • Stryd Parcmaen / Dewi Sant
  • Teras Picton / Parc Penllwyn
  • Pontgarreg a Ysbyty Dewi Sant
  • Heol y Prior
  • Yr Orymdaith / Esplande
  • Y Cei / Glannau Tywys
  • Stryd y Dŵr

 

Diben dynodi Ardal Gadwraeth yw rhoi mesur ychwanegol o reolaeth i'r Cyngor ar ardal y mae'n barnu sydd o werth arbennig yn hanesyddol neu'n bensaernïol.

Nid yw hyn yn golygu na ellir cynnig datblygiadau, nac y bydd gwaith ar eich eiddo yn cael ei wrthod fel mater o drefn. Serch hynny, mae'n golygu y bydd y Cyngor yn rhoi sylw i effaith eich cynigion ar yr ardal dan sylw, yn ogystal â'u hasesiad arferol.

Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, bydd arnoch angen caniatâd ardal gadwraeth i wneud y canlynol:

  • Dymchwel adeilad sydd â chyfaint o fwy na 115 o fetrau ciwbig. Mae yna ychydig o eithriadau – gallwch gael mwy o wybodaeth gan y cyngor perthnasol.
  • Dymchwel gât, ffens, wal neu reilin sy’n fwy nag un metr o uchder nesaf at briffordd (gan gynnwys llwybr troed cyhoeddus neu lwybr ceffylau) neu fan agored cyhoeddus; neu fwy na dau fetr o uchder mewn mannau eraill
  • Mae yna rai eithriadau rhag y gofyniad cyffredinol i geisio caniatâd ardal gadwraeth i ddymchwel adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth.

Gwnewch gais am ganiatâd cynllunio mewn ardal gadwraeth    GWNEUD CAIS AM DDYMCHWEL MEWN ARDAL GADWRAETH

 

 

Defnyddir cyfarwyddydau a awdurdodir gan Erthygl 4 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 i ddileu rhai hawliau datblygu a ganiateir.

Mae rheolaethau tynnach ar waith o ran lefelau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd cadwraeth o'u cymharu â mannau eraill, ond, mewn llawer o achosion, efallai na fydd hyd yn oed reolaethau o'r fath yn ddigonol i ddiogelu cymeriad arbennig yr ardal dan sylw, ac atal erydiad cynyddrannol ei chymeriad a'i golwg arbennig, yn enwedig lle mae nifer sylweddol o adeiladau heb eu rhestru yn cael eu defnyddio at ddefnydd preswyl.

Gall nifer o newidiadau bach, gyda'i gilydd – megis gosod deunyddiau modern priodol yn lle teils gwreiddiol y to, gosod ffenestri uPVC neu alwminiwm yn lle'r rhai traddodiadol, a dymchwel perthi neu waliau terfyn blaen i ddarparu parcio oddi ar y stryd – leihau ar gymeriad ‘arbennig’ yr ardal dan sylw.

Ar hyn o bryd, mae pedwar Cyfarwyddydau Erthygl 4 wedi'u cyhoeddi mewn tair ardal gadwraeth, sef:

  • Cwmdu
  • Talacharn / Aber Taf
  • Llanymddyfri
  • Llangadog

 

Cynllunio