Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/08/2023

Os byddwch yn cytuno i ddarparu tai fforddiadwy fel rhan o’ch cais cynllunio, bydd hynny’n cael ei ffurfioli fel cytundeb adran 106.  Bydd y cytundeb yn nodi naill ai canran y tai fforddiadwy sydd i'w codi (ceisiadau amlinell) neu'r union leiniau a mathau o dai (ceisiadau llawn neu geisiadau materion a neilltuwyd).

Bydd prisiau gwerthu’r cartrefi hyn yn cael eu cyfyngu adeg eu gwerthu am y tro cyntaf a phob tro y cânt eu gwerthu yn y dyfodol, ar sail lluosyddion incwm canolrif gros aelwydydd yn chwe ardal rhwydwaith cymunedol Sir Gaerfyrddin. 

Caiff y ffigurau hyn eu diweddaru ym mis Tachwedd bob blwyddyn, a dyma beth ydynt ar hyn o bryd:

Ardal  Cymunedol Canolrif incwm aelwydydd Fflat 1 ystafell wely Fflat neu dŷ 2 ystafell wely Tŷ 3 ystafell wely Tŷ 4 ystafell wely
Aman £30,071 £63,307 £79,134 £94,961 £110,788
Gwendraeth £31,562 £66,446 £83,058 £99,669 £116,281
Llanelli £28,297 £59,573 £74,466 £89,359 £104,252
Taf Myrddin £31,794 £66,935 £83,668 £100,402 £117,136
Teifi £29,741 £62,613 £78,266 £93,919 £109,572
Tywi £33,111 £69,707 £87,134 £104,561 £121,988

Nodiadau:   
1) Seiliwyd ar ddata incwm aelwydydd a ddarparwyd fesul ward gan CACI Paycheck, Rhagfyr 2022
2) Seiliwyd ar 3 gwaith y canolrif incwm a blaendal o 5% ar gyfer tŷ nodweddiadol o 3 ystafell wely

Cynllunio