Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

Rydym wedi ymrwymo i ymgynghori â chymdogion a phartïon eraill y gallai ceisiadau cynllunio effeithio arnynt yn uniongyrchol, ac rydym yn awyddus i gael eich barn fel y gallwn roi sylw iddynt wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

Yn dibynnu ar fath a maint y cais, byddwn yn ymgynghori gan ddefnyddio un neu ragor o'r dulliau canlynol. Anfon llythyr hysbysu at gymdogion /perchnogion /preswylwyr sy'n ffinio â'r safle, arddangos 'Hysbysiad Cynllunio' ar y safle arfaethedig neu gerllaw, rhoi datganiad i'r wasg yn y papur newydd lleol. Cyhoeddir yr holl geisiadau ar-lein ar y Rhestr Wythnosol.

Os hoffech gyflwyno sylwadau ynghylch y datblygiad arfaethedig, bydd angen ichi wneud hynny o fewn y cyfnod ymgynghori sy'n 21 diwrnod. Gall unrhyw un gyflwyno sylwadau a gallant fod yn wrthwynebiadau, yn gefnogaeth, neu'n sylwadau am y cais.

Gellir penderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio ar sail y materion hynny sy'n berthnasol i gynllunio yn unig (ystyriaethau perthnasol). Mae'r rhai mwyaf cyffredin o'r rhain yn cynnwys:

  • Effaith ar draffig, mynediad, diogelwch ffyrdd a pharcio
  • Maint, golwg ac effaith ar yr ardal o gwmpas ac ar y cymdogion cyfagos
  • Colli golau
  • Edrych dros eiddo arall a cholli preifatrwydd
  • Effaith ar gadwraeth natur a cholli coed
  • Effaith ar Adeiladau Rhestredig a/neu Ardaloedd Cadwraeth
  • Rhywbeth sy'n groes i bolisi'r Cyngor
  • Sŵn a tharfu'n deillio o'r modd y caiff ei ddefnyddio
  • A fyddai'r defnydd a wneir yn briodol i'r ardal

Yn aml mae pobl yn dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch materion na ellir eu hystyried oherwydd nad ydynt yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gynllunio. Mae'r gwrthwynebiadau cyffredin yn cynnwys:

  • Gostwng gwerth eiddo
  • Colli golygfa
  • Materion preifat rhwng cymdogion megis anghydfodau ynghylch waliau cydrannol, difrodi eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau neu gyffelyb
  • Problemau sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu megis sŵn, llwch a tharfu gan gerbydau adeiladu (os ydych yn cael y problemau hyn mae'n bosibl y gall Tîm Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd fod o gymorth)
  • Cystadlu rhwng cwmnïau
  • Materion saernïol a rhagofalon tân (yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth rheoli adeiladu)
  • Mathau eraill o ddatblygiad y gallech chi fod yn eu ffafrio.

Gallwch gyflwyno'ch sylwadau ar-lein, drwy e-bost neu yn ysgrifenedig. Wrth i chi gyflwyno sylwadau, cofiwch: 

  • Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol, heblaw eich enw a'ch cyfeiriad yng nghorff eich llythyr neu e-bost.
  • Nid oes angen ichi lofnodi eich sylw os ydych yn ei gyflwyno ar-lein. Os ydych yn cynnwys eich llofnod ar unrhyw lythyr rydych yn anfon, byddwn yn cuddio eich llofnod pan fyddwn yn cyhoeddi ar-lein.
  • Os ydych yn cyflwyno'ch sylw ar-lein, anfonwch eich sylw fel atodiad i neges e-bost, a bydd hynny'n sicrhau na chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi.
  • Chi sy'n gyfrifol am unrhyw ddatganiadau a wnewch. Sicrhewch nad yw'n sarhaus, yn niweidiol nac yn anwir, oherwydd os ydyw yna bydd eich sylw yn cael ei dynnu oddi ar y wefan.
  • Bydd unrhyw sylwadau a gyflwynir yn cael eu cyhoeddi ar ein wefan, a gall hynny gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad.
  • Na roddir ystyriaeth i sylwadau dienw.

Caiff yr holl sylwadau a gyflwynir, boed y rhain yn sylwadau o blaid neu'n sylwadau yn erbyn, eu hystyried os ydynt yn codi ystyriaethau cynllunio perthnasol oherwydd gellir ystyried y rhain yn ystod y broses asesu. Mae'n bwysig nodi, yn ogystal â'ch gwrthwynebiadau chi, y bydd rhaid i ni hefyd ystyried polisi lleol a chenedlaethol a allai effeithio ar gais.

Gan ein bod yn cael llawer iawn o ohebiaeth ni fyddwn yn cydnabod bod eich sylwadau wedi dod i law nac, fel rheol, yn ymateb i'r sylwadau na'r cwestiynau a gyflwynir neu eich hysbysu o'r penderfyniad. Gallwch ddilyn hynt y cais cynllunio ar-lein, gan gynnwys yr hysbysiad penderfyniad.

Dim ond yr ymgeisydd all gyflwyno apêl yn erbyn y penderfyniad, ond os cyflwynir apêl, cewch wybod a chewch gyfle i gyflwyno rhagor o sylwadau i Arolygydd Cynllunio'r Llywodraeth sy'n ymdrin â'r apêl.

Cyflwyno sylwadau

Cynllunio