Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023
Gellir penderfynu ynghylch ceisiadau cynllunio ar sail y materion hynny sy'n berthnasol i gynllunio yn unig (ystyriaethau perthnasol). Mae'r rhai mwyaf cyffredin o'r rhain yn cynnwys:
- Effaith ar draffig, mynediad, diogelwch ffyrdd a pharcio
- Maint, golwg ac effaith ar yr ardal o gwmpas ac ar y cymdogion cyfagos
- Colli golau
- Edrych dros eiddo arall a cholli preifatrwydd
- Effaith ar gadwraeth natur a cholli coed
- Effaith ar Adeiladau Rhestredig a/neu Ardaloedd Cadwraeth
- Rhywbeth sy'n groes i bolisi'r Cyngor
- Sŵn a tharfu'n deillio o'r modd y caiff ei ddefnyddio
- A fyddai'r defnydd a wneir yn briodol i'r ardal
Yn aml mae pobl yn dymuno cyflwyno sylwadau ynghylch materion na ellir eu hystyried oherwydd nad ydynt yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gynllunio. Mae'r gwrthwynebiadau cyffredin yn cynnwys:
- Gostwng gwerth eiddo
- Colli golygfa
- Materion preifat rhwng cymdogion megis anghydfodau ynghylch waliau cydrannol, difrodi eiddo, hawliau tramwy preifat, cyfamodau neu gyffelyb
- Problemau sy'n gysylltiedig â gwaith adeiladu megis sŵn, llwch a tharfu gan gerbydau adeiladu (os ydych yn cael y problemau hyn mae'n bosibl y gall Tîm Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd fod o gymorth)
- Cystadlu rhwng cwmnïau
- Materion saernïol a rhagofalon tân (yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth rheoli adeiladu)
- Mathau eraill o ddatblygiad y gallech chi fod yn eu ffafrio.
Mae gan reolwyr cynllunio bwerau i benderfynu ynghylch rhai ceisiadau a byddant hwy'n ystyried eich sylwadau ysgrifenedig. Os bydd angen i gais gael ei ystyried gan Bwyllgor, bydd swyddogion cynllunio yn ysgrifennu adroddiad sy'n cynnwys argymhelliad a chrynodeb o'r sylwadau a ddaeth i law. Cyflwynir yr adroddiad i'r Pwyllgor priodol, a fydd yn cynnwys Cynghorwyr wardiau etholedig.
Mewn rhai amgylchiadau mae'n bosibl y cewch gyfle i siarad mewn cyfarfod o'r pwyllgor. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch siarad yn y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â'r swyddog cynllunio sy'n ymdrin â'r cais, cyn gynted â phosibl. Bydd y Pwyllgor yn ystyried eich sylwadau ynghyd â'r materion cynllunio eraill sy'n ymwneud â'r achos. Nid oes rheidrwydd ar y Pwyllgor i dderbyn argymhelliad y swyddog cynllunio. Gall roi neu wrthod caniatâd cynllunio.
Gallwch ddilyn hynt y cais cynllunio ar-lein a gweld dogfennau cysylltiedig, gan gynnwys yr hysbysiad penderfyniad.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Cynaliadwy
Torri rheolau cynllunio
Adeiladu tŷ newydd
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Brosiectau Cynllunio Mawr
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cynllunio Ecoleg
- Canllaw i Ymgynghorwyr Ecolegol
- Budd Net i Fioamrywiaeth
- Rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir
- Targedau ffosffad newydd
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
- Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio