Lleoliadau Seremoni

Rydym yn gallu cynnig ystod eang o adeiladau sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer priodasau a seremonïau partneriaeth sifil, o westai hardd, i ffermydd a chestyll.  Sylwch fod nifer y gwesteion a ddangosir isod ar gyfer arweiniad yn unig. Trafodwch ofynion eich parti gyda'r lleoliadau.

Ar ôl ichi drefnu dyddiad amodol gyda'ch lleoliad, cysylltwch â ni drwy ffonio 01267 228210, er mwyn inni drafod eich gofynion a chadw'r dyddiad amodol ichi. Bydd angen ichi dalu ffi archebu na ellir ei had-dalu. Mae'r ffioedd yn amrywio rhwng £475 - £575 gan ddibynnu pa bryd rydych yn dewis cynnal eich seremoni. Unwaith y byddwch wedi archebu eich cofrestrydd a'ch lleoliad, mae gofynion cyfreithiol y bydd angen ichi eu cyflawni cyn y gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil.

Mae gwybodaeth fanwl ar gael ar ein tudalen priodasau a phartneriaethau sifil.