Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/12/2022

Beth yw Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol?

Mae Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol (3CIPA) yn wasanaeth rhanbarthol sy'n darparu Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.  

Mae Eiriolaeth Broffesiynol yn golygu cefnogi pobl i siarad drostynt eu hunain, i sicrhau y gwrandewir ar eu barn a'u dymuniadau a'u bod yn gallu gwneud dewisiadau gwybodus wrth geisio cael mynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae eiriolwyr yn cefnogi pobl i gynnal eu hawliau cyfreithiol a hawliau dynol.

Os hoffech siarad ag eiriolwr i gael gwybod rhagor am y gwasanaeth hwn neu i wneud atgyfeiriad i chi eich hun neu ar ran rhywun arall, cysylltwch a ni.