Sut i gael help

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/04/2024

Rydym yn gweithio gyda phobl yn ein cymuned sydd angen cyngor, cymorth, gofal, ac y mae angen eu hamddiffyn. Mae hyn yn cynnwys plant a'u teuluoedd, pobl hŷn, pobl â salwch neu anabledd, pobl â phroblemau iechyd meddwl a'r rheiny sydd angen cymorth i ofalu am rywun arall.

Mae'r cyngor a'r cymorth rydym yn eu darparu yn bwriadu helpu ac annog pobl i fod mor annibynnol ag y gallant a pharhau i fyw gartref lle bynnag y bo'n bosibl. Os ydych yn teimlo bod arnoch angen cymorth mwy penodol gan y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, yna byddwn yn trefnu trafod eich sefyllfa gyda chi ac, fel arfer, byddwn yn ymweld â chi er mwyn siarad am eich bywyd pob dydd a'r hyn sy'n bwysig i chi.

Yn ystod yr ymweliad, byddwn yn gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Byddwn yn trafod gyda chi sut y mae/bydd y pethau canlynol yn effeithio ar eich annibyniaeth:

  • Iechyd a Diogelwch: Unrhyw afiechydon, anableddau neu faterion diogelwch y gellir rhoi cymorth mewn perthynas â nhw.
  • Rheoli Trefn Ddyddiol:A ydych yn gallu gofalu amdanoch eich hun drwy gynnal trefn ddyddiol a sicrhau deiet/gwres/gofal personol digonol?
  • Ymreolaeth: A ydych yn gallu gwneud penderfyniadau a chymryd camau i'ch helpu i aros mor annibynnol â phosibl?
  • Cynhwysiad Cymdeithasol: A ydych yn gallu mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol a chyfleoedd cymdeithasol i ryw raddau pan fo angen?

Ar ôl cyfarfod a thrafod eich sefyllfa a gwrando ar yr hyn sy'n bwysig i chi, byddwn yn rhoi gwybod ichi beth yw canlyniad yr ymweliad. Er mwyn cael hawl i'n gwasanaethau mae'n rhaid eich bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin (amodol ar eithriadau) ac mae'n rhaid bod eich sefyllfa yn bodloni pedwar amod. Yr amodau hyn yw:

  1. Bod eich anghenion yn codi yn sgil naill ai iechyd meddwl neu iechyd corfforol gwael, oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau, neu amgylchiadau tebyg.
  2. Bod yr anghenion hynny'n ymwneud ag un neu ragor o'r canlynol:
    • Methu â gofalu am eich un na chyflawni tasgau bob dydd yn y cartref.  Golyga hyn bwyta ac yfed, cynnal hylendid personol, codi o'r gwely a gwisgo, symud o amgylch y tŷ a chadw'r cartref yn lân ac yn ddiogel.
    • Os ydych yn cael anhawster cyfathrebu
    • Os oes angen i chi gael eich diogelu rhag camdriniaeth neu esgeulustod
    • Os oes angen cymorth arnoch mewn perfynas â gwaith, addysg neu weithgareddau hamdden
    • Os oes angen cymorth arnoch i feithrin neu gynnal perthnasoedd â'ch teulu
    • Os oes angen cymorth arnoch i feithrin neu gynnal perthnasoedd â'ch ffrindiau neu't gymuned leol
    • Os oes angen cymorth arnoch gan eich bod yn gofalu am blentyn.
  3. Eich bod yn methu â bodloni eich anghenion naill ai ar eich pen eich hun, neu â chymorth gan eraill sy'n barod i'w roi, er enghraifft teulu, ffrindiau ac ati, ac nid oes gwasanaethau ar gael yn y gymuned (bydd modd i ni eich helpu i ddarganfod a oes unrhyw wasanaethau cymunedol ar gael).
  4. Rydych yn annhebygol o lwyddo i wneud yr hyn rydych yn dymuno ei wneud oni bai ein bod yn darparu gwasanaethau i chi neu'n eich talu chi'n uniongyrchol er mwyn i chi brynu eich gwasanaethau eich hun.

Dim ond os ydych yn bodloni'r amgylchiadau uchod yn llawn y bydd gennych hawl i'n gwasanaethau. Fodd bynnag, os nad ydych yn bodloni'r amodau uchod i gyd, byddwn bob amser yn barod i roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i chi er mwyn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi eich hun.

Os ydych chi'n gymwys i dderbyn cymorth, byddwch yn cael eich cynnwys yn y broses o baratoi eich cynllun gofal/cymorth. Bryd hynny, gallwch gynnwys gwybodaeth am sut a phryd y bydd cymorth yn cael ei ddarparu. Mae'n bwysig nodi hefyd y gallech gael asesiad ariannol er mwyn helpu i benderfynu a oes angen ichi wneud cyfraniad ariannol at gost eich gwasanaeth cymorth.

Bydd eich cynllun gofal/cymorth personol yn cynnwys crynodeb o'r ffordd y gallwch ddisgwyl i gymorth gael ei ddarparu, er enghraifft, gall fod sawl ffordd wahanol o'ch helpu i gyrraedd eich nod(au) a gytunwyd. Gallwch ddisgwyl i rywun edrych ar eich cynllun eto, o leiaf unwaith y flwyddyn neu fel y cytunir. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn y lefel fwyaf priodol o gymorth, oherwydd gall sefyllfaoedd newid. Os yw eich sefyllfa yn newid yn sylweddol neu fod angen i chi drafod eich sefyllfa gyda rhywun cysylltwch â'r person a helpodd i drefnu eich cymorth a ddarperir gennym ni, gan ddefnyddio'r manylion y byddent wedi'u gadael gyda chi. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwch gysylltu â Llesiant Delta ar 0300 333 2222 (24awr).

Gallwch ddefnyddio cais ar-lein am atgyfeiriad ar gyfer oedolion dros 18 oed yn unig. Os hoffech gysylltu â ni am rywun sydd dan 18 oed, ffoniwch 01267 234567 neu e-bostiwch: galw@sirgar.gov.uk. Os na allwch lenwi'r ffurflen ar-lein, ffoniwch Llesiant Delta ar 0300 333 2222.

Os ydych yn cysylltu â ni ar ran rhywun arall y mae angen eu caniatâd oni bai yw'r person mewn perygl o gael ei gam-drin gan eraill neu os nad ydynt yn gallu darparu caniatâd.

Gwneud cais am asesiad