Hyfforddiant ar gyfer darparwyr gofal plant

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/02/2024

Mae'r Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae yn trefnu ac yn cydlynu hyfforddiant i ddiwallu anghenion gofalwyr plant cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n darparu hyfforddiant cymorthdaledig i gynorthwyo gweithwyr gofal plant i fodloni'r safonau a bennwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), h.y. cyrsiau gorfodol megis hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Hylendid Bwyd Sylfaenol.

Mae'r hyfforddiant hefyd o gymorth i ddatblygiad personol gweithwyr gofal plant. Ar ôl cynllun peilot llwyddiannus i gynnig Cwrs Amddiffyn Plant ar-lein, mae'r cwrs hwn bellach ar gael i'r holl weithwyr gofal plant. Rydym yn croesawu adborth gan warchodwyr plant fel y gallwn glustnodi bylchau mewn anghenion hyfforddiant ac addasu cyrsiau yn ôl eu hanghenion penodol.

Cred y Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae y bydd plant a theuluoedd yn y cymunedau ar eu hennill os cynigir addysg a gofal o safon i blant ac os hyrwyddir staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda.

I gael gwybod am gyrsiau yn y dyfodol cysylltwch â Swyddog Hyfforddiant y Gwybodaeth Teuluoedd, Gofal Plant a Chwarae drwy ffonio 01267 246555 neu edrych ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd Sir Gaerfyrddin i weld rhestr o'r cyrsiau sydd ar gael.