Mabwysiadu

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru dimoedd mabwysiadu sy'n gweithio ar draws pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol.

Does dim gwahaniaeth os oes gennych blant yn barod, os ydych yn sengl neu'n gwpl, yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.