Maethu

Diweddarwyd y dudalen ar: 24/01/2024

Ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, mae cannoedd o blant a phobl ifanc eraill sydd angen teulu gofalgar a chariadus i'w maethu. Drwy fod yn ofalwr maeth, gallwch helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn neu berson ifanc. Mae llawer o wahanol fathau o leoliadau gofal maeth ar gael sy'n addas i'ch anghenion a'ch amgylchiadau unigol chi.

Rydym yn chwilio am ofalwyr profiadol a newydd o bob cefndir i drawsnewid bywyd plentyn neu berson ifanc am byth. Ystyrir pob cais. Os oes gennych natur garedig a gofalgar, tosturi at bobl ifanc, ac os ydych yn ymrwymedig ac yn llawn hwyl - rydym eisiau clywed gennych heddiw!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am faethu plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, byddem yn falch iawn o glywed gennych! Gallwch gysylltu â'n Tîm Recriwtio (Maethu) i gael sgwrs anffurfiol ac er mwyn iddynt ateb unrhyw gwestiynau drwy ffonio 0800 0933 699 neu e-bostiwch maethu@sirgar.gov.uk neu ewch i'r wefan maethu.