Beth rydym yn ei wneud?

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2023

Mae cynaliadwyedd yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor - rydym yn gweithio'n galed i leihau faint o ynni a ddefnyddiwn, lleihau'r adnoddau a ddefnyddiwn ac ailddefnyddio/ailgylchu deunyddiau, lleihau ein hallyriadau o ran trafnidiaeth a hyrwyddo adfywio cymunedol. Dyma rai enghreifftiau'n unig o'r hyn yr ydym yn ei wneud:

Ynni

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gallu lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn a'n hôl troed carbon drwy fuddsoddi mewn goleuadau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, inswleiddio a systemau gwresogi newydd. Mae ein biliau gwresogi a goleuo dros £4 miliwn y flwyddyn ac mae costau tanwydd ein cerbydau rywbeth yn debyg, felly bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i leihau'r costau hyn yn ein helpu i gadw gwasanaethau a diogelu swyddi yn y Cyngor.

Y llynedd, gwnaethom leihau ein defnydd o ynni mewn adeiladau dros 3% a gwnaethom leihau ein costau tanwydd oddeutu 8%.

Trafnidiaeth

Mae defnyddio cerbydau yn un o'n heriau mawr eraill o ran ôl troed carbon y cyngor. Mae ein cerbydau fflyd wedi bod yn teithio dros 7 miliwn o filltiroedd bob blwyddyn ac roedd staff y cyngor yn teithio bron 6 miliwn o filltiroedd bob blwyddyn. Gyda'i gilydd, mae hyn yn gyfystyr â 26 siwrnai i'r lleuad ac yn ôl, bob blwyddyn. Y llynedd, gwnaethom lwyddo i leihau nifer milltiroedd y fflyd 770,000 milltir, sef gostyngiad o dros 10%, a defnydd staff o'u cerbydau personol dros hanner miliwn milltir, sef gostyngiad o 9%. Mae hwn yn ganlyniad rhagorol mewn un flwyddyn yn unig.

Er mwyn annog staff i deithio i'r gwaith drwy ddulliau eraill rydym hefyd wedi rhoi cymorth i 180 aelod o staff brynu beiciau drwy'r "cynllun beicio i'r gwaith”.

Gwastraff

Bu cynnydd yn ein cyfraddau ailgylchu i dros 50% erbyn hyn gan i ni lwyddo gyrraedd y targed o 55% yn 2013/14. Bellach, mae cynlluniau ailgylchu o dŷ i dŷ ar gael i 99% o aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin. Mae holl safleoedd ac ysgolion y Cyngor yn hyrwyddo ailgylchu a chasglu bwyd ar wahân. Am fwy o wybodaeth ewch i'r adran ailgylchu ar ein gwefan.

Timau Gwyrdd

Mae holl staff y Cyngor wedi cael eu hannog i sefydlu a chymryd rhan mewn Timau Gwyrdd yn ein prif adeiladau, ac mae 12 wedi cael eu sefydlu hyd yma yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman.

Mae'r timau'n draws-adrannol ac yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â'r adeilad penodol hwnnw. Gall y rhain amrywio o ddefnyddio ynni (gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni a'r defnydd o ddeunyddiau adnewyddadwy) a defnydd o ddŵr, i wastraff, ailgylchu a thrafnidiaeth.

Nod cyffredinol y Timau Gwyrdd yw sicrhau bod y defnydd o ynni a'r ôl troed carbon yn yr adeilad hwnnw'n lleihau. Hyd yma maent wedi gweithredu amryw o fesurau, gan gynnwys:

  • Archwiliadau effeithlonrwydd ynni a negeseuon i hyrwyddo mwy o effeithlonrwydd
  • Gosod bylbiau golau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ym mhrif adeiladau'r Cyngor
  • Gosod dyfeisiau diffodd peiriannau er mwyn lleihau faint o ynni a ddefnyddir
  • Gosod 'hippos' (dyfeisiau arbed dŵr) yn y toiledau
  • Cynyddu nifer y biniau ailgylchu sydd ar gael
  • Cael cwpanau gwydr yn lle'r cwpanau plastig (sy'n dod gyda'r oeryddion dŵr)
  • Hyrwyddo cynlluniau beicio i'r gwaith