Cynllun gwella hawliau tramwy

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/01/2023

Yn sgil Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, roedd yn ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol gyhoeddi cynllun gwella hawliau tramwy sy'n cwmpasu ei ardal gyfan. 

Roedd y Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i adolygu eu cynlluniau gwella hawliau tramwy o fewn 10 mlynedd ar ôl llunio eu cynllun diwethaf.

Bwriedir i gynlluniau gwella fod yn brif ffordd i awdurdodau priffyrdd lleol nodi'r newidiadau sydd i'w gwneud o ran rheoli a gwella'u rhwydweithiau hawliau tramwy lleol er mwyn sicrhau darpariaeth well i gerddwyr, beicwyr, marchogion ac i'r rheiny sy'n wynebu rhwystrau wrth fynd i gefn gwlad.

Gall hawliau tramwy cyhoeddus ddarparu cysylltiadau gwerthfawr o fewn y seilwaith trafnidiaeth leol, gan roi cyfleoedd o ran trafnidiaeth gynaliadwy rhwng cymunedau, i weithleoedd ac amwynderau lleol.

Mae hawliau tramwy cyhoeddus hefyd yn rhan hanfodol o dwristiaeth wledig ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae o ran gwella a chynnal iechyd a llesiant ac o ran cyflawni'r amcanion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Y camau allweddol sy'n rhan o gynnal y broses adolygu yn ôl Canllawiau Llywodraeth Cymru:

  • Cynllunio ar gyfer yr Adolygiad: mater, amlinelliad ac amserlen ac ymgynghoriad cychwynnol
  • Cynnal asesiadau newydd
  • Adolygu'r cynllun gwella hawliau tramwy blaenorol a phenderfynu a oes angen ei ddiwygio
  • Cyhoeddi Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft. Mae hyn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o 12 wythnos o leiaf.
  • Diwygio'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drafft.
  • Cyhoeddi'r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy terfynol.

Mae Cynllun Gwella Hawliau Tramwy blaenorol Sir Gaerfyrddin wedi cyrraedd diwedd ei dymor. Rydym yn falch o gyhoeddi ein Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2019-2029.

Lawrlwythwch Gynllun 2019 - 2029