Ansawdd aer

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/12/2023

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn gosod dyletswydd arnom i adolygu ac i asesu ansawdd yr aer yn ein hardal o bryd i'w gilydd. Mae rhai llygryddion allweddol y dylid eu hystyried, ac fe'u nodir yn y ddeddfwriaeth. Mae gan bob un o'r llygryddion allweddol safon y mae’n rhaid ei bodloni. Pennwyd lefelau ar gyfer y safonau (amcanion) a seiliwyd ar wybodaeth wyddonol gyfredol, gyda'r bwriad o ddiogelu iechyd a'r amgylchedd. Mae'r Amcanion Ansawdd Aer i'w gweld yn Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010.

Rydym yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru ynghylch ansawdd yr aer yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch adroddiadau ansawdd aer ar gael ar wefan Defra. Mae holl Awdurdodau Lleol Cymru yn diweddaru manylion eu lleoliadau monitro a chanlyniadau eu samplo ar wefan Fforwm Ansawdd Aer Cymru.

Rydym wedi nodi mai'r llygrydd allweddol mwyaf perthnasol i Sir Gaerfyrddin yw Nitrogen Deuocsid (NO2). Prif ffynhonnell allyriadau NO2 yn Sir Gaerfyrddin yw traffig ar y ffyrdd. Rydym wedi datblygu rhwydwaith monitro sy'n dilyn rhai o'n ffyrdd prysuraf a'r strydoedd lle ceir y nifer mwyaf o dagfeydd.

Yn 2011 dynodwyd rhan o Landeilo yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Gwnaed hyn oherwydd na chydymffurfir â'r safonau o ran NO2 yn yr ardal. Er nad yw'r lefelau NO2 yn yr ardal yn ddigon uchel i achosi effeithiau uniongyrchol ar iechyd, mae'r lefelau'n ddigon uchel i greu problemau iechyd hir dymor ar gyfer pobl sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau resbiradol, megis asthma, afiechyd pwlmonaidd rhwystrol cronig (COPD) ac ati.

Rydym yn cydweithio'n agos â'n cydweithwyr yn yr asiantaethau allanol er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion a'u gweithredu er mwyn gwella ansawdd aer yn yr ardal.

Cynllun Gweithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llandeilo

Ym mis Awst 2016 dynodwyd bod rhan benodol o Gaerfyrddin yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Mae hyn o ganlyniad i'r nwyon sy'n cael eu gollwng gan gerbydau'r ffordd. Mae lefelau'r Nitrogen Deuocsid (NO2) ar hyn o bryd yn uwch na'r lefelau cyfreithiol mewn mannau lleol iawn yn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Cyngor, a thu hwnt i'r Cyngor, i leihau'r lefelau hyn lle y gallwn.

Er nad yw'r lefelau NO2 yn yr ardal yn ddigon uchel i effeithio ar iechyd pobl yn syth, mae'r lefelau'n ddigon uchel i greu problemau iechyd hirdymor i bobl sy'n agored iddynt am gyfnodau digon hir ac sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau anadlu megis asthma, afiechyd pwlmonaidd rhwystrol cronig (COPD), ac ati.

Mae Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddatblygu sy’n nodi mesurau a allai helpu i wella Ansawdd Aer yn yr ardal. Mae Gorchymyn a Map Ffiniau yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gael i’w lawrlwytho isod.

Gorchymyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Caerfyrddin        Map ffiniau Ardal Rheoli Ansawdd Aer Caerfyrddin

Ym mis Awst 2016 dynodwyd bod rhan benodol o Lanelli yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Mae hyn o ganlyniad i'r nwyon sy'n cael eu gollwng gan gerbydau'r ffordd. Mae lefelau'r Nitrogen Deuocsid (NO2) ar hyn o bryd yn uwch na'r lefelau cyfreithiol mewn mannau lleol iawn yn yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ac rydym yn gweithio gyda'n partneriaid yn y Cyngor, a thu hwnt i'r Cyngor, i leihau'r lefelau hyn lle y gallwn.

Er nad yw'r lefelau NO2 yn yr ardal yn ddigon uchel i effeithio ar iechyd pobl yn syth, mae'r lefelau'n ddigon uchel i greu problemau iechyd hirdymor i bobl sy'n agored iddynt am gyfnodau digon hir ac sydd eisoes yn dioddef o gyflyrau anadlu megis asthma, afiechyd pwlmonaidd rhwystrol cronig (COPD), ac ati.

Mae Cynllun Gweithredu wedi cael ei ddatblygu sy’n nodi mesurau a allai helpu i wella Ansawdd Aer yn yr ardal. Mae Gorchymyn a Map Ffiniau yr Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar gael i’w lawrlwytho isod.

Gorchymyn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llanelli        Map ffiniau Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llanelli