Rheoliadau ynghylch Difrod Amgylcheddol

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Daeth Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) 2009 (fel y'u diwygiwyd) â gofynion y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol (Cyfarwyddeb 2004/35/EC) i gyfraith genedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Daethant i rym ar 6 Mai 2009 yng Nghymru gan osod rhwymedigaethau ar lawer o fusnesau i atal, neu unioni, unrhyw ddifrod amgylcheddol y maent yn gyfrifol amdano.

Maent yn seiliedig ar yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ felly mae’r rhai sy’n gyfrifol yn atal ac yn adfer difrod amgylcheddol, yn hytrach na bod y trethdalwr yn talu.

Mae cyfundrefnau atebolrwydd blaenorol yn y DU yn dal i fod yn gymwys a phan fyddant yn gosod rhwymedigaethau ychwanegol i'r rhai yn y Rheoliadau hyn, bydd angen cydymffurfio â nhw o hyd.

Mae difrod amgylcheddol yn ymwneud â'r canlynol:

  • Effeithiau andwyol ar gyfanrwydd Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) neu ar statws cadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd a warchodir gan ddeddfwriaeth yr UE y tu allan i SDdGA
  • Effeithiau andwyol ar ddŵr wyneb neu ddŵr daear sy’n gyson â dirywiad yn statws y dŵr (term y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr)
  • Halogiad tir sy'n arwain at risg sylweddol o gael effeithiau andwyol ar iechyd dynol

Bwriedir i’r Rheoliadau fod yn berthnasol pan fydd rhywbeth wedi mynd o’i le a bod bygythiad ar fin digwydd neu pan fydd ‘difrod amgylcheddol’ gwirioneddol yn berthnasol yn unig.

Trwy sicrhau bod gennych fesurau atal llygredd priodol i leihau risgiau i'r amgylchedd eisoes, gallwch leihau'r tebygolrwydd o gael eich effeithio gan y Rheoliadau. Cam cyntaf pwysig yw cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth bresennol, fel nad yw bygythiadau ar ddigwydd neu ddifrod yn codi.

Nid yw yswiriant yn orfodol, ond mi ddylech wirio eich polisïau presennol. Pan fo angen, ystyriwch eu hymestyn neu gymryd gwarantau ariannol eraill i gwmpasu unrhyw rwymedigaethau posibl am niwed i'r amgylchedd.

Os mai chi yw'r gweithredwr ar weithgaredd economaidd a bod y gweithgaredd hwn yn achosi difrod neu mewn perygl o achosi risg i'r amgylchedd, mae'n rhaid i chi gymryd camau ar unwaith i atal y sefyllfa rhag gwaethygu. Mae'n rhaid i chi wedyn roi gwybod i'r awdurdod gorfodi ar unwaith - nid yw'r awdurdod gorfodi yn gyfrifol am lanhau'r llanast.

Gallai methu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau olygu y byddwch yn euog o gyflawni trosedd a gallai cosbau fod yn berthnasol.

Os nad ydych yn siŵr a oes difrod amgylcheddol wedi'i achosi, fe'ch cynghorir i gymryd y dull gweithredu a chymryd camau gweithredu ar unwaith beth bynnag fo'r sefyllfa a rhoi gwybod wedyn i'r awdurdod gorfodi. Bydd yr awdurdod gorfodi yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud nesaf.

Gweithredwr yw person, neu gwmni sy'n rheoli neu'n gyfrifol am weithgaredd. Gall fod gan rai gweithgareddau fwy nag un gweithredwr.

Mae gweithgaredd economaidd yn cwmpasu ystod o weithgareddau gan gynnwys busnesau, gweithgareddau y sector cyhoeddus a llawer o weithgareddau elusennol. Nid yw gweithgareddau hamdden neu ddomestig yn berthnasol.

Nhw yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r rheoliadau. Yn nhermau cyffredinol nhw yw:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â difrod i ddŵr a/neu gynefinoedd a rhywogaethau;
  • Awdurdod Lleol mewn perthynas â thir a halogir lle mae risg i iechyd dynol.

Os nad yw'n bosibl darparu'r manylion i gyd ar unwaith, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'r awdurdod gorfodi. Gellir darparu gwybodaeth ychwanegol yn hwyrach. Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r awdurdod gorfodi, cysylltwch â naill ai Cyfoeth Naturiol Cymru neu Gyngor Sir Caerfyrddin.

Pan fydd yr awdurdod yn ymwybodol o achos posibl, mae'n rhaid penderfynu a yw'n 'ddifrod amgylcheddol', pennu gweithredwr cyfrifol a goruchwylio bod y Rheoliadau yn gweithredu'n effeithiol.

Os ydych yn weithredwr, mae'n rhaid i chi gymryd camau ar unwaith i atal difrod neu ddifrod pellach, peidiwch ag aros hyd nes y byddwch wedi siarad â Chyfoeth Naturiol Cymru neu Gyngor Sir Caerfyrddin.

Os hoffech roi gwybod i'r Cyngor am ddifrod amgylcheddol posibl, neu os ydych yn pryderu am ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan rywun arall, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl drwy e-bostio galw@sirgar.gov.uk/diogelurcyhoedd@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567.

Fel arall, os hoffech roi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru am ddigwyddiad, ffoniwch 0300 065 3000 neu ewch i'r dudalen we ganlynol Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad.