Amdanom ni

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/03/2024

Gwybodaeth am ein Hadeilad

Mae cyfleuster newydd Archifau Sir Gaerfyrddin wedi'i gynllunio i fodloni safonau Passivhaus.

Manyleb Ewropeaidd drylwyr sy'n gweithio trwy insiwleiddio'r adeilad i'r lefelau mwyaf effeithiol yw Passivhaus. Mae adeiladau Passivhaus yn cael eu creu i sicrhau lefel uchel o effeithlonrwydd ynni sy'n rhagori ar reoliadau'r llywodraeth. Mae'r dull unigryw hwn yn ein galluogi i gynnal yr amodau amgylcheddol priodol yn ein hystafelloedd diogel trwy gydol y flwyddyn dan gostau ynni is. Bydd amgylchedd sefydlog y cyfleuster Passivhaus newydd yn sicrhau bod ein casgliad yn cael ei gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cwblhawyd yr adeilad archifau newydd yn haf 2020 ac mae’n darparu:

  • Storfa ar gyfer cofnodion Sir Gaerfyrddin mewn lle sy’n gadarn yn amgylcheddol ac sy’n addas ar gyfer y dyfodol, lle cant eu diogelu rhag pob risg bosibl gan gynnwys difrod neu golled.
  • Ystafell chwilio gyhoeddus eang sy'n darparu mynediad cyfforddus a diogel i'r casgliad yn ôl y galw.
  • Ystafell waith archifol fodern sy'n cynnwys swyddfeydd cysylltiedig sy'n ddeniadol ac yn gyfforddus
  • Derbynfa ddogfennau gwbl gymwys ynghyd â'r mannau prosesu angenrheidiol.

Polisïau

Mae ein polisïau’n disgrifio sut yr ydym yn rheoli ein casgliadau archif, ein cyfrifoldebau sefydliadol, a’n hymrwymiad i’n defnyddwyr a’n rhanddeiliaid.

Cyfarwyddyd handlo da: Sut i edrych ar ôl ein archifau.

Cyfarwyddyd hawlfraint: Amdan trosedd hawlfraint.

Cyfarwyddyd llungopïo: Gwybodaeth am ein hegwyddorion sy'n rhoi caniatâd i gopïo ac i gyhoeddi archifau yn ein casgliadau.

Polisi atgynhyrchu: Ynglŷn â'r egwyddorion sy'n arwain caniatâd i gopïo a chaniatâd i gyhoeddi archifau yn ein casgliadau.

Polisi datblygu casgliadau: Am y cofnodion a gasglwn a'r amodau ar gyfer eu derbyn.

Polisi ffotograffiaeth ddigidolGwybodaeth am y defnydd o gamerâu digidol yn yr ystafell chwilio.

Polisi gofalu am a gwarchod casgliadauGwybodaeth am ein hymagwedd at ofalu am ein harchifau a'u gwarchod a'r egwyddorion sy'n llywio'r gweithgareddau sy'n angenrheidiol ar gyfer eu cadw a'u diogelu yn yr hirdymor.

Polisi gwirfoddoli: Gwybodaeth am sut yr ydym yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a lleoliadau gwaith.

Polisi Gwybodaeth am Gasgliadau: Sut mae gwybodaeth am y casgliad ar gael.

Polisi mynediadSut yr ydym yn darparu mynediad i'n casgliadau archif.