Ein Casgliad

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Mae archifau Sir Gaerfyrddin yn llawn straeon hynod ddiddorol am bobl a lleoedd.

Mae ein daliadau, sy'n cynnwys cofrestri plwyf, dyddiaduron, llythyrau, cofnodion llys, ffotograffau, cofnodion llywodraeth leol, cofnodion addysg, cofnodion ystadau a chofnodion ysgol, yn hawlio bron i 4km o silffoedd.

Mae’r cyfoeth hwn o ddeunydd ar gael i ymchwilwyr ei ddefnyddio a’i fwynhau, p’un a ydych yn olrhain hanes eich teulu, hanes tŷ, hanes lleol, neu feysydd eraill o ddiddordeb.

Offer chwilio

  • Ystafell Chwilio: Mae modd dod o hyd i'n harchifau trwy ein catalogau a'r mynegeion sydd yn yr ystafell chwilio gyhoeddus: Os ydych yn ymweld â'r gwasanaeth am y tro cyntaf, mae ein staff ar gael i ddangos i chi sut i ddefnyddio ein hoffer chwilio.
  • Ar-lein. Mae modd hefyd ddod o hyd i lawer o'n harchifau ar Hwb Archifau.

Rydym ar hyn o bryd yn cychwyn ar brosiect mawr i sicrhau bod disgrifiadau o'n harchifau ar gael ar yr Hwb Archifau. Mae rhywfaint o waith rhagarweiniol wedi'i wneud ond bydd catalogau pellach yn cael eu hychwanegu'n fuan.

Efallai eich bod eisoes wedi bwrw golwg ar wefannau megis Ancestry a Find My Past. Yma yn Archifau Sir Gaerfyrddin, mae gennym lawer o archifau a dogfennau eraill a all ychwanegu at eich gwybodaeth am eich cyndeidiau.​​ ​Felly, p’un a ydych chi newydd ddechrau arni, neu’n chwilio am fanylion sy’n anodd dod o hyd iddynt, gallai ein hystod enfawr o ddogfennau fod yn ddelfrydol i chi.

Mae rhai o’r archifau a’r dogfennau sydd gennym yn yr archifau yn cynnwys:

  • Cofnodion plwyf
  • Cofnodion etholiadol
  • Cofnodion o ystadau teuluol
  • Cofnodion llys
  • Cyfeiriaduron a chofnodion gan fusnesau lleol
  • Cofnodion ysbyty, tloty a cheiswyr lloches
  • Llythyrau personol a chyfrifon a
  • Chofnodion ysgol

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin hefyd yn cadw casgliad mawr o adnoddau hanes lleol a theuluol.

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n byw mewn tŷ sydd â hanes, efallai yr hoffech chi wneud rhywfaint o ymchwil a darganfod ychydig mwy.

Mae’r ffynonellau sydd ar gael yn Archifau Sir Gaerfyrddin a allai helpu gyda’ch ymchwiliadau yn cynnwys:

  • Gweithredoedd eiddo
  • Mapiau a chynlluniau
  • Cyfeiriaduron a Rhestrau Pleidleiswyr
  • Ffurflenni Cyfrifiad
  • Manylion am unrhyw werthiant
  • Ffurflenni Treth Tir
  • Llyfrau Trethi
  • Cofnodion Prisio Tir Cyllid y Wlad 1911
  • Cofnodion Profiant

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am eiddo a'i breswylwyr/perchnogion.

Os oes gennych ddogfennau neu ffotograffau o werth hanesyddol sy'n ymwneud â Sir Gaerfyrddin a'i phobl, a'ch bod yn dymuno iddynt gael eu cadw a'u bod ar gael yn gyhoeddus, efallai y gallwch eu rhoi i ni. Byddwn yn gweithio i gadw unrhyw archifau a sicrhau eu bod yn hygyrch am flynyddoedd i ddod.

Mae dogfennau o ddiddordeb yn cynnwys:

  • Cofnodion sefydliadau Sir Gaerfyrddin megis busnesau, ysgolion, eglwysi ac elusennau
  • Dogfennaeth yn ymwneud ag unigolyn neu deulu yn y sir, megis gohebiaeth, dyddiaduron, gweithredoedd, a chofnodion ystad
  • Llyfrau, mapiau, pamffledi a defnyddiau printiedig eraill sy'n perthyn i'r sir
  • Ffotograffau a chardiau post o Sir Gaerfyrddin

I gael rhagor o wybodaeth gweler ein Polisi Datblygu Casgliadau.

Mae copi o’n ffurflen Cytundeb Adneuwr ynghyd â’n telerau ac amodau i’w gweld yma.