Ein Gwasanaethau

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

Gwasanaeth Ymchwil 

Os nad ydych yn gallu ymweld â ni a bod angen cymorth arnoch i chwilio ein cofnodion, beth am ddefnyddio ein Gwasanaeth Ymchwil i wneud y gwaith hwn ar eich rhan?

Mae'r gwasanaeth hwn am ddim am yr 15 munud cyntaf. I ymgymryd â chwiliadau hirach neu fwy cymhleth rydym yn codi £40 yr awr gan gynnwys TAW (o leiaf 1 awr fesul cais). Nid yw'r tâl hwn yn cynnwys copïau a thâl post.

I gael gwybodaeth am dalu am y gwasanaeth hwn, gweler ein rhestr o Ffioedd a Thaliadau.

Mae Ffurflen Gais Ymchwil ar gael i'w lawrlwytho yma.

Fel arall, gallwch ysgrifennu atom neu anfon e-bost gyda'ch ymholiad.

Cofiwch gynnwys cymaint o fanylion â phosibl am eich pwnc, e.e. enwau, dyddiadau, plwyfi yn achos hanes teulu; cynlluniau neu fapiau yn achos hanes eiddo.

Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad trwy e-bost pryd bynnag y bo modd, ac yn anfon copi o unrhyw wybodaeth y byddwn yn dod o hyd iddi ar ffurf e-bost.

Sganio a chopïo ffotograffau a dogfennau

Gallwn ddarparu lluniau wedi'u sganio a llungopïau lle nad ydyw dan hawlfraint a bod cyflwr yr eitem yn caniatáu hynny. Mae pob copi ar gyfer astudiaeth breifat yn unig. Dyma ei'n Polisi copïo.

Os oes angen copïau ar gyfer arddangosfa, atgynhyrchu, cyhoeddiad neu ar gyfer gwefan, yna bydd angen caniatâd ymlaen llaw gan berchnogion y ddogfen a hawlfraint. Bydd staff yn eich cynghori ym mhob achos. I gael caniatâd, cysylltwch â ni. Os rhoddir caniatâd, bydd ar yr amod y rhoddir cydnabyddiaeth briodol.

Mae archebu llungopïau yn cael eu prisio yn ôl faint o amser y mae staff yn treulio yn ymgymryd â'r archeb. I weld ein ffioedd a thaliadau presennol, gweler ein rhestr o Ffioedd a Thaliadau.

Mae ffurflen archebu ar gael i'w llwytho yma.

I gael dyfynbris am gopïo, cysylltwch â ni.

Ein ffioedd a thaliadau

Rhestr o Ffïoedd a ThaliadauRhestr o ffioedd a thaliadau am y gwahanol wasanaethau yr ydym yn eu cynnig.

Ffurflen Gais YmchwilFfurflen gais i'w hargraffu ar gyfer gwneud cais am wasanaethau ymchwil gan Archifau Sir Gaerfyrddin.

Ffurflen ArchebuPan fyddwch yn archebu copïau ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil anfasnachol, mae'n rhaid i chi lofnodi datganiad sy'n nodi:

  • Na fyddwch yn torri unrhyw hawlfraint yn y ddogfen/dogfennau a gopïwyd.
  • Na fyddwch yn cyhoeddi dogfen a ddarparwyd yn wreiddiol ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil anfasnachol heb ganiatâd ysgrifenedig gan Archifau Sir Gaerfyrddin.

Cofiwch fod y cyhoeddiad yn cwmpasu mwy na llyfrau. Mae defnyddio ein lluniau mewn darllediad cyhoeddus neu arddangosfa, ychwanegu ein lluniau at wefan arall neu eu postio ar gyfryngau cymdeithasol yn cyfrif fel cyhoeddiad, ac mae angen i chi wneud cais am ganiatâd a thalu ffi.

Ffurflen archebu ar gyfer atgynhyrchu deunydd archif, ac ar gyfer ffilmio ar eiddo'r Gwasanaeth Archifau: Cyhoeddiad masnachol, gan gynnwys lluniau ar wefannau masnachol.

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion, ac i ofyn am ddyfynbris.

Ffôn:

Gallwch dalu am ein holl wasanaethau, gan gynnwys archebion am gopïo ac ymchwil dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Mae'r ddesg dalu ar agor o 9.00am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau a 9.00am - 4.30pm ar ddydd Gwener. Mae ar gau rhwng 1:00pm a 2:00pm.

Ffoniwch: 01267 228686.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn eich galwad ar wyliau Banc y DU neu penwythnos wyliau Banc.