Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/01/2024

Mae'n hawdd ymuno - gallwch gofrestru ar-lein drwy roi ychydig o fanylion syml neu drwy ffonio un o'n tair prif lyfrgell lle bydd aelod o'n tîm yn rhoi carden llyfrgell a rhif PIN dros dro i chi.

Gallwch archebu hyd at 20 o eitemau, gan gynnwys llyfrau a llyfrau llafar.

Gallwch fenthyg llyfrau am hyd at 3 wythnos.

 

Gallwch adnewyddu eich llyfrau ar-lein. Mewngofnodwch gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN. Gallwch hefyd ffonio'r Llyfrgell a siarad ag aelod o'n tîm.

Gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar drwy BorrowBox neu RBdigital o'n llyfrgell ddigidol fel rhan o'ch aelodaeth o'r Llyfrgell.

  1. Ewch i wefan Zinio a mewngofnodi, gallwch bori y casgliad llawn neu chwilio am gylchgrawn penodol
  2. Cliciwch ar y cylchgrawn yr hoffech ei ddarllen a chliciwch "Checkout" i ddarllen ar-lein.
  3. I ddarllen all-lein gallwch lawrlwytho'r ap RBDigital ar gyfer iPad / Android.
  4. Gallwch hefyd ddewis i dderbyn hysbysiadau e-bost o bryd fydd y rhifyn nesaf ar gael i'w darllen/lawrlwytho.
  1. Ymunwch â'n llyfrgell os nad ydych eisoes yn aelod
  2. Ewch i wefan Zinio eMagazines
  3. Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell, rhif PIN a manylion personol a chliciwch "Create Account".
  4. Gallwch newid eich dewisiadau a sefydlu hysbysiadau am Cylchgronau drwy glicio ar yr eicon ar yr ochr dde uchaf y wefan.

Bydd y gwasanaeth e-lyfrau yn caniatáu 3 diwrnod i chi lawrlwytho'r e-lyfr. Wedi hynny bydd yr e-lyfr yn cael ei gynnig i'r nesaf ar y rhestr aros neu'n cael ei ddychwelyd i'r gronfa e-lyfrau i gael ei gyrchu gan ddefnyddwyr eraill.

Ar gyfer defnyddwyr PC / MAC ac am yr holl ddarllenwyr sydd yn gydnaws â Rheolaeth Cyfyngiadau Digidol (RCD), bydd yr e-lyfrau yn cael eu llwytho i lawr gan defnyddio'r meddalwedd safonol am e-lyfrau, Adobe Digital Editions.

Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio lawrlwytho e-lyfr byddwch yn cael cyfarwyddyd i lawrlwytho a gosod Adobe Digital Editions os nad yw'r feddalwedd hon ar eich cyfrifiadur yn barod.

Nac ydych. Os nad ydych chi wedi gorffen yr e-lyfr, cewch ei lawrlwytho eto os nad oes neb arall wedi'i archebu. Os oes archeb wedi'i gwneud, bydd angen ichi ychwanegu eich manylion at y rhestr aros a byddwch yn cael gwybod pan fydd yr e-lyfr ar gael i'w fenthyg.

21 diwrnod yw'r cyfnod benthyg a bydd yr e-lyfr yn darfod ar ôl hynny ac ni fydd modd ei ddarllen ar eich cyfrifiadur neu ddarllenydd e-lyfrau. Wedyn, bydd modd i ddefnyddiwr arall lawrlwytho'r e-lyfr.

  1. Ymunwch â'r llyfrgell os nad ydych eisoes yn aelod
  2. Ar eich llechen/ffôn clyfar lawrlwythwch yr ap BorrowBox drwy eich siop apiau. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur personol neu Mac ewch yn uniongyrchol i BorrowBox.
  3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin a chreu cyfrif gan ddefnyddio eich cerdyn llyfrgell.
  4. Ewch ati i bori drwy'r casgliad 24/7 yn ôl teitl, awdur neu gategori. Gallwch gael cip ymlaen llaw ar y llyfrau cyn eu benthyca. Ewch ati i gadarnhau eich dewis neu roi lyfr ar gadw ar gyfer adeg arall.
  5. Lawrlwythwch y llyfr ar unwaith neu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod benthyca. Pan fydd llyfrau a roddwyd ar gadw yn barod i'w lawrlwytho bydd e-bost yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cofrestredig (wedi'i ddiweddaru drwy "My Account").
  6. Ar ôl mewngofnodi mae gan BorrowBox adran cymorth gynhwysfawr ac mae hefyd yn darparu cymorth technegol drwy support@bolindadigital.com 

Ydych. Mae'r gwasanaeth e-lyfrau'n caniatáu ichi archebu e-lyfr sydd wedi cael ei lawrlwytho. Os ydych chi am gynnwys eich cyfeiriad e-bost gyda'r archeb byddwn yn rhoi gwybod ichi cyn gynted ag y bydd y teitl ar gael.

Oes. Mae gan ein Llyfrgell Deithiol ddetholiad o iPads ar gael, yn ogystal â WIFI am ddim a chyfleusterau argraffu

Llwythwch mwy