Llyfrgell digidol

Theory Test Pro

Mae Theory Test Pro yn efelychiad realistig iawn o brawf theori gyrru'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys banc o gwestiynau swyddogol i ymarfer ar gyfer y prawf, clipiau fideo i'ch helpu i adnabod peryglon a fersiwn ar-lein o Reolau'r Ffordd Fawr. Defnyddir yr holl ddeunydd dan drwydded yr Asiantaeth Safonau Gyrru, sef y bobl sy'n gosod y prawf.

Mae Theory Test Pro ar gael yn gwbl rad ac am ddim i breswylwyr sy'n dod i unrhyw un o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal gall aelodau o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ddefnyddio Theory Test Pro o'r tu allan i'r llyfrgelloedd gan ddefnyddio rhif eu carden llyfrgell.

  • Dewiswch categori: Dysgu