Cais am ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

O Ebrill 2002, daeth yr holl wydro cyfnewid o fewn cwmpas y Rheoliadau Adeiladu. Un o’r prif resymau dros y newid yw’r angen i leihau’r ynni a gollir. Pan ddaw’r amser i werthu eich eiddo, bydd syrfewyr eich prynwr yn gofyn am dystiolaeth bod unrhyw wydro cyfnewid a osodwyd ar ôl Ebrill 2002 yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu newydd.

Gallwch brofi cydymffurfiaeth trwy ddarparu un o'r canlynol:

  • tystysgrif sy’n dangos bod y gwaith wedi’i wneud gan osodwr sydd wedi’i gofrestru dan gynllun FENSA, neu
  • dystysgrif oddi wrth yr adain Rheoli Adeiladu sy’n nodi bod y gosodiad wedi derbyn cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu.

Mae Cynllun FENSA yn gynllun a fydd yn caniatáu i gwmnïau gosod sy’n bodloni meini prawf penodol hunan-ardystio bod eu gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. Bydd FENSA yn hysbysu Awdurdodau Lleol ynghylch yr holl osodiadau FENSA a gwblhawyd ac yn rhoi tystysgrifau i ddeiliaid tai.

Cyn i chi lofnodi contract i brynu gwydro cyfnewid, sicrhewch eich bod yn gofyn a yw’r gosodwr yn gallu hunan-ardystio. Os na, bydd angen iddyn nhw, neu i chi, wneud cais i’r adain Rheoli Adeiladu a thalu unrhyw dâl perthnasol. Nodwch, fel deiliad tŷ, mai chi sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.

Lawrlwythwch ffurflen gais am ffenestri, drysau neu ffenestri to newydd