Dymchwel

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/01/2022

Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith dymchwel mae'n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn i chi ddechrau. Mae angen rhoi gwybod i'r Uned Rheoli Adeiladu os yw'r adeilad a ddymchwelir yn fwy na 1750 troedfedd giwbig neu 47 metr ciwbig. Gall estyniad cefn deulawr fod tua'r maint hwn. Rhaid cyflwyno'r cais o leiaf chwe wythnos cyn y bwriedir dechrau'r gwaith.

Byddwn yn rhoi hysbysiad i chi a fydd yn pennu gwahanol amodau, gyda'r bwriad o sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel a heb golli dim cyfleusterau i'r cyhoedd. Ni ddylid dechrau dymchwel dim byd oni bai ein fod ni wedi rhoi hysbysiad o dan Adran 81 neu hyd nes bod chwe wythnos wedi mynd heibio ers i ni hysbysu am y bwriad i ddechrau dymchwel.

Mae'r cyfnod hwn yn ofynnol i roi amser i ni ymgynghori â phobl eraill sydd a wnelont â'r mater. Byddwn yn ceisio ymgynghori â hwy cyn gynted â phosibl, ac mewn sawl achos bydd yn gallu rhoi hysbysiad ymhen 7 i 14 diwrnod.

Hefyd, cyfrifoldeb y sawl sy'n gwneud y gwaith dymchwel yw ymgynghori â deiliaid adeiladau cyfagos ac â'r Byrddau Nwy a Thrydan.

Lle bo awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan adran 81, mae'n rhaid iddo hefyd roi copi i berchnogion a deiliaid unrhyw adeilad ger y safle dymchwel, sef yr ymgymerwyr statudol. Yn ogystal, rhaid rhoi copi i'r Awdurdod Tân a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yw'n fwriad llosgi deunydd ar y safle.

Gall hysbysiad o'r fath gynnwys yr amodau canlynol:

  • Atgyfnerthu adeiladau cyfagos
  • Diddosi arwynebau adeiladau cyfagos
  • Atgyweirio unrhyw ddifrod i adeiladau cyfagos a achosir gan y gwaith dymchwel
  • Gwaredu deunydd neu rwbel o'r safle yn sgil y gwaith dymchwel
  • Datgysylltu a selio unrhyw ddraeniau neu geuffosydd
  • Gwaredu unrhyw ddraeniau neu geuffosydd
  • Unioni arwyneb y tir yr effeithir arno
  • Gwneud trefniadau i ddatgysylltu'r nwy, y dŵr, a'r trydan yn yr adeilad
  • Gwneud trefniadau ynghylch llosgi deunydd ar y safle gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Awdurdod Tân
  • Cymryd y camau y mae'r awdurdod lleol yn eu hystyried yn angenrheidiol i ddiogelu'r cyhoedd ac i gadw cyfleusterau i'r cyhoedd.