Gwarant LABC

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Mae Gwarant LABC yn gweithio mewn partneriaeth â'r LABC (Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol) er mwyn darparu ystod gyflawn o wasanaethau datblygwyr i gefnogi gwaith adeiladu o'r dechrau i'r diwedd: boed yn warantau preswyl a dibreswyl neu'n asesiadau a phrofion.

Er mwyn cael morgais, mae’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn mynnu bod gan adeiladau newydd warant strwythurol yn ei lle gan ei bod yn yswirio rhag unrhyw risgiau nad ydynt wedi’u cynnwys mewn yswiriant adeiladau safonol, fel gwaith dylunio, deunyddiau neu grefftwaith. Yn dechnegol, gelwir hyn yn yswiriant diffygion cudd. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i’r cleient.

Mae hyn yn darparu ar gyfer datblygwyr ac adeiladwyr anturiol ac mae’n cwmpasu addasiadau, adeiladau newydd a datblygiadau defnydd cymysg. Mae’r cynnyrch yn cydnabod ac yn gwobrwyo prosiectau o ansawdd drwy bremiymau cystadleuol a thelerau sy’n arwain y farchnad. Mae’r gwasanaeth a’r cymorth yn gyflym a di-dor o ganlyniad i dîm gwasanaethau cwsmeriaid profiadol ac ymroddedig MDIS.

Mae Gwarant Cartrefi Newydd Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) yn wasanaeth o ansawdd sy’n cynnig cynnyrch cystadleuol penodol ar gyfer tai preswyl anturiol, tai cymdeithasol a thai hunanadeiladu.

Mae cynllun Gwarant Cartrefi Newydd LABC wedi’i greu drwy bartneriaeth rhwng LABC, y corff sy’n cynrychioli adrannau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol, a Gwasanaethau Yswiriant MD Cyfyngedig (MDIS), y cwmni sy’n gweinyddu’r cynllun, sydd wedi’i reoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Datrysiad cystadleuol wedi’i deilwra sy’n cwmpasu prosiectau llety rhanberchenogaeth, rhent neu weithwyr allweddol. Mae ansawdd yn cael ei wobrwyo drwy’r un manteision a roddir i ddatblygwyr anturiol. Gellir darparu yswiriant am gyfnod o 10 neu 12 mlynedd.

Wedi’i chynllunio yn benodol ar gyfer unigolion sy’n adeiladu eu tai eu hunain – adeiladau newydd ac addasiadau – er mwyn rhoi tawelwch meddwl. Mae ansawdd yn cael ei wobrwyo drwy bremiymau cystadleuol a gwasanaeth ardderchog sy’n seiliedig ar brofiad helaeth MDIS o brosiectau hunanadeiladu.

Yswiriant diffygion strwythurol yw Gwarant masnachol Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) ar gyfer adeiladau masnachol sy’n werth hyd at £15 miliwn a, drwy gytundeb, ar gyfer adeiladau sy’n werth dros £15 miliwn. Fe’i darperir gan LABC drwy adrannau rheoli adeiladu awdurdodau lleol mewn partneriaeth ag Oval Insurance Broking, gyda Allianz Global Corporate & Specialty (Allianz) yn yswirwyr.

Mae Gwarant masnachol LABC yn cynnig ffordd rad o osgoi’r risgiau mawr a’r cymhlethdodau cyfreithiol sy’n gysylltiedig â gwarantau cyfochrog. Darperir yswiriant ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo masnachol - swyddfeydd, gwestai, bwytai, ffatrïoedd, warysau, meddygfeydd, ysgolion, siopau, stadia chwaraeon a llawer mwy.

Mae datblygwyr, perchenogion, tenantiaid a defnyddwyr / meddianwyr eraill i gyd yn cael eu hyswirio. Am fwy o wybodaeth neu am ddyfynbris, cysylltwch â'r tîm Gwarant LABC ar: Ffôn: 0845 054 0505.