Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Rhain yw’r cwestiynau yr ydym yn cael eu gofyn yn aml, os byddwch ddim yn gallu chwilio y gwybodaeth chi eisiau cysylltwch ag 01267 246044 neu e-bost: rheolaeth.adeiladu@sirgar.gov.uk.

Set o safonau ar gyfer dylunio a chodi adeiladau yw Rheoliadau Adeiladu, er mwyn gofalu am iechyd a diogelwch y bobl sy'n defnyddio’r adeiladu hynny ac sy'n troedio yn eu cyffiniau. Maent hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau bod tanwydd ac ynni yn cael eu harbed, a bod cyfleusterau'n cael eu darparu ar gyfer pobl sydd ag anableddau.

Nac ydyw. Dwy swyddogaeth gwbl ar wahân ydynt. Bydd angen caniatâd cynllunio o bosibl hyd yn oed os nad yw'r rheoliadau adeiladu yn gymwys, oherwydd gallai’r cynnig fod yn adeiladwaith eithriedig. Gellir cael cyngor cynllunio gan yr Adain Rheoli Datblygu. 

Syrfewyr yn yr Adain Rheoli Adeiladu sy'n cyflawni'r rôl hon. Bydd timau o syrfewyr â chymwysterau uchel a phrofiad helaeth yn archwilio'r cynlluniau ac yn cynnal ymweliadau safle wrth i'r gwaith fynd rhagddo: mae eu gwybodaeth helaeth am ddeunydd a dulliau adeiladu ac am amodau lleol ar gael i'ch cynorthwyo gydol y broses adeiladu.

  • Pan fyddwch yn adeiladu neu'n gwneud estyniad i adeilad. 
  • Pan fyddwch yn newid adeilad yn sylweddol e.e. gwneud newidiadau i'r adeiladwaith. 
  • Pan fyddwch yn helaethu neu'n newid gwasanaeth a reolir o fewn adeilad e.e. gosod toiled. 
  • Pan fyddwch yn dymuno newid defnydd sylfaenol yr adeilad. 
  • Pan fyddwch yn gosod ffenestri newydd drwy ddefnyddio Adeiladwr neu gwmni ffenestri sydd heb gofrestru gyda FENSA.

Mae dwy ffordd y gallwch wneud cais i ni am ganiatâd i adeiladu:-

Naill ai drwy gyflwyno "CYNLLUNIAU LLAWN" neu drwy'r weithdrefn "HYSBYSIAD ADEILADU".

Noder: os ydych yn bwriadu codi adeilad sy'n cynnwys swyddfeydd neu siopau rhaid i chi gyflwyno "CYNLLUNIAU LLAWN".

Manteision y weithdrefn 'Cynlluniau Llawn' yw:

Byddwn yn eich cynghori ynglŷn â'r Rheoliadau Adeiladu adeg dylunio'ch prosiect, sy'n golygu bod eich cynlluniau’n fwy tebygol o gael eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Lleol.

Byddwn yn sicrhau eich bod yn cael penderfyniad cyn pen 3 wythnos fel arfer - wedi'i gymeradwyo neu ei gymeradwyo'n amodol.

Gallwch osgoi’r oedi costus a all ddigwydd os nad yw eich gwaith yn cyrraedd y safon ofynnol. Gweler y wybodaeth am 'CYNLLUNIAU LLAWN'.

Manteision y weithdrefn 'Hysbysiad Adeiladu' yw:

Lle bo’r cynigion adeiladu ar gyfer gwaith ar raddfa fach, mae'r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu yn symlach na'r weithdrefn cynlluniau llawn.

Os nad yw eich gwaith arfaethedig yn rhy helaeth neu gymhleth, mae defnyddio hysbysiad adeiladu yn syniad da, ond mae’n rhaid bod eich adeiladwr (neu chi) yn gwybod beth mae'n ei wneud oherwydd gall unioni'r gwaith fod yn ddrud.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio Hysbysiad Adeiladu ac eithrio fel y nodir uchod pan fydd yr adeilad yn cynnwys siop neu swyddfa. 

Bydd, mae'n rhaid i ni godi tâl am y gwaith o weinyddu'r Rheoliadau. Bydd y swm cyntaf y mae'n rhaid i chi ei dalu yn dibynnu a fyddwch yn dewis y weithdrefn Cynlluniau Llawn neu Hysbysiad Adeiladu. Dylech allu cyfrif y tâl cywir drwy ddarllen y dudalen ‘Y Taliadau a Godir’. Byddwch yn derbyn bil am weddill y ffïoedd ar ôl dechrau'r gwaith.

Pan fo adeilad nad oedd yn breswylfa’n flaenorol yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Lle bo adeilad yn cynnwys fflat lle nad oedd fflat cyn hynny. Pan ddefnyddir adeilad fel gwesty neu sefydliad lle na ddefnyddid felly cynt. Pan ddaw adeilad yn adeilad cyhoeddus (e.e. ysgol, theatr, neuadd, eglwys) lle nad oedd cynt.

Os ydych wedi cyflawni'r gwaith heb yn gyntaf gael y gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu angenrheidiol, fe allech gael anhawster i werthu'r eiddo neu ei ail-forgeisio.

Os gwnaed y gwaith ar ôl yr 11eg o Dachwedd 1985, mae gweithdrefn ar gael y gallwch ei defnyddio i gael caniatâd ôl-weithredol.

Dylech gyflwyno dau gopi o'r cynlluniau yn dangos y gwaith cyn ac ar ôl yr adeiladu gyda manylion llawn am y gwaith, ynghyd â ffurflen gais reoleiddio a'r ffi briodol. Nid oes TAW yn daladwy ar y math hwn o ffi ond mae'n 150% o'r ffi arferol fel y nodir yn y tablau ffioedd.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, bydd syrfëwr yn cysylltu â chi i drefnu ymweliad â'r safle er mwyn gwerthuso beth sydd wedi'i wneud. Os oes angen gwneud gwaith adfer, caiff hyn ei amlygu, ac ar ôl cwblhau’r gwaith, rhoddir tystysgrif rheoliadau.

Nid oes yn rhaid i chi aros tan i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo cyn dechrau ar y gwaith. Fodd bynnag, mae cael cymeradwyaeth yn gyntaf yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi na fydd yn rhaid talu costau diangen. Ar ôl i chi roi Hysbysiad Adeiladu i ni neu anfon cynlluniau atom, gallwch ddechrau ar y gwaith - a fyddech chi gystal â rhoi 2 ddiwrnod o rybudd i ni. Gallwch wneud hyn drwy ffonio.

Os byddwch yn bwrw ati â'r gwaith heb roi gwybod i ni mae'n bosibl y gofynnir i chi ddadwneud y gwaith fel y gall y Swyddog Rheoli Adeiladu sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau. 

Ar ôl i'ch gwaith gael ei gwblhau, dylech gysylltu â'ch Syrfewr Rheoli Adeiladu i drefnu archwiliad terfynol. Argymhellwn eich bod yn peidio â rhoi eich taliad olaf i'r adeiladwyr hyd nes bo'r archwiliad terfynol wedi'i wneud a'ch bod wedi derbyn tystysgrif cwblhau. 

Os ydych yn gwneud gwaith heb ddweud wrthym mae'n bosibl eich bod yn cyflawni trosedd y gallwch, o'ch cael yn euog, gael dirwy o hyd at £5,000 amdani. Gall problemau godi hefyd yn y dyfodol os yw'r eiddo'n cael ei werthu a bod chwiliadau perthnasol yr awdurdod lleol yn dangos na chafwyd caniatâd.

Llwythwch mwy