Dewis adeiladwr

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/01/2022

Os ydych yn ystyried cael gwaith wedi'i wneud ar eich eiddo a bod angen adeiladwr arnoch, dylech ystyried y dewis hwn yn ofalus iawn. Gan taw hwn fydd un o'r buddsoddiadau mwyaf yr ydych yn debygol o'i wneud. Dylech yn gyntaf wneud yn berffaith siŵr fod yr adeiladwr yn gwneud gwaith o safon.

Dyma rai o'r pethau y dylech ystyried eu gwneud:

  • Ar gyfer prosiectau mawr ystyriwch gyflogi gweithiwr proffesiynol i'ch cynghori.
  • Trafodwch derfynau eich trefniadau gyda'r gweithiwr proffesiynol.
  • Os bernwch bod y gwaith y bwriedwch ei wneud yn fach ac nad oes angen gweithiwr proffesiynol arnoch, yna ceisiwch gael cyngor gan rywun yn y diwydiant adeiladu yr ydych yn ei adnabod yn dda ac yn ymddiried ynddo.
  • Cofiwch ofyn bob amser am ddyfynbris (tri o leiaf) a chael rhywun i'w gwirio. Amcangyfrif yw amcan bras o'r pris; dyfynbris yw pris penodol fel arfer. Edrychwch i weld a yw'n cynnwys TAW.

Gofynnwch gwestiynau i'r adeiladwr...

  • Ble maent wedi gweithio o'r blaen? A ydynt yn hapus i chi gael gweld eu gwaith?
  • Beth yw eu harbenigedd yn y prosiect penodol y bwriedwch ei gyflawni?
  • A allant roi tystlythyrau oddi wrth gwsmeriaid bodlon?
  • A fyddant yn rhoi dyddiad cwblhau terfynol i chi?

Yn olaf, byddwch yn llawer tawelach eich meddwl ar ôl cadarnhau safon gwaith yr adeiladwr, tystlythyrau ac unrhyw agweddau eraill megis arferion gwaith, gyda chlientiaid blaenorol.Y peth gorau yw gofyn y cwestiwn nawr, peidiwch ag aros nes ei bod hi'n rhy hwyr!