Neges wrth y Arweinydd y Cyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 08/08/2023

Cllr Darren Price

Croeso i Sir Gaerfyrddin ‐ sy'n un o'r siroedd mwyaf diogel, mwyaf prydferth a mwyaf bywiog yng Nghymru. Yn aml caiff y sir ei disgrifio fel microcosm o Gymru; mae ganddi arfordir trawiadol, trefi marchnad hanesyddol a threfi ôl-ddiwydiannol bywiog sydd wedi'u hadfywio.

Mae'n parhau ymysg rhai o'r llefydd mwyaf diogel i fyw yn y wlad ac mae lefelau troseddau yn isel. Ymysg yr atyniadau yn y sir mae cae rasio Ffos Las, traethau Baner Las gan gynnwys traeth euraid Cefn Sidan, nifer o gyrsiau golff, Stadiwm Parc y Scarlets, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a chyfleuster Denu Twristiaid newydd sbon ar lan y môr ym Mhentywyn.

Mae gan ein Gwasanaethau Iechyd gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu modelau gofal newydd a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau ar draws gwasanaethau acíwt a chymunedol. Mae gennym dros 9,000 o dai sy'n eiddo i'r cyngor a thrwy reolaeth ariannol ddarbodus rydym bellach yn cynllunio i adeiladu rhagor o dai i fodloni'r angen am dai lleol ac arbenigol. Rydym wrthi'n datblygu prosiect cyffrous ac uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd, sef datblygiad Pentre Awel, fydd yn creu swyddi a thai yn ogystal â chyfleusterau ymchwil feddygol a gofal iechyd o'r radd flaenaf.

Am le gwych i fyw, gweithio neu ymweld - does dim angen mynd ymhellach na Sir Gâr.

Cyng. Emlyn Dole
Arweinydd y Cyngor