Digwyddiad rhithwir i recriwtio gofalwyr cartref

Dydd Mawrth 27 Chwefror - 10am, 2pm a 6pm.

Dewch i wybod mwy am yr yrfa werth chweil hon.

cofrestrwch

 

Gyrfa a ffordd o fyw

  • Gradd E - £13.59 - £15.30 yr awr
  • Gwyliau blynyddol hael
  • Mae patrymau gwaith pedwar diwrnod yn y gwaith / pedwar diwrnod i ffwrdd o'r gwaith a chontractau ar gael, gan weithio yn ystod y dydd a/neu gyda'r nos gan gynnwys gweithio ar benwythnosau a gwyliau banc.
  • Trefniadau gweithio'n achlysurol ar gael
  • Wythnos waith 26 neu 35 awr ar gael, gellir ystyried oriau contract eraill
  • Cyfleoedd datblygu a llwybrau gyrfa i unrhyw un sydd am ddatblygu eu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol
  • System fentora i'ch cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn eich rôl newydd

 

O Ddydd i Ddydd

  • Lwfans tanwydd o 0.45c y filltir
  • Amser teithio â thâl
  • Ceir adrannol ar gael
  • Ymsefydlu a hyfforddiant rheolaidd
  • Ffôn symudol
  • Darperir yr holl gyfarpar diogelu personol
  • Telir treuliau

 

Buddion staff

  • Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol sy'n perfformio'n dda gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cynllun buddion staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro, siopa a llawer mwy
  • Gwersi Cymraeg am ddim
  • Cymorth llesiant ac iechyd galwedigaethol
  • Polisïau amser o'r gwaith gan gynnwys gwell absenoldeb mamolaeth yn ogystal ag absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb babi cynamserol
  • Cynllun Ymddeoliad Hyblyg
  • Gwybodaeth am sut i gael mynediad at gynllun gofal plant di-dreth y Llywodraeth

 

Beth mae cleientiaid yn ei ddweud amdanom ni

Mae'r staff yn wych”

Roeddwn arfer bod yn nyrs ac ni allaf ganmol y staff ddigon. Maen nhw'n gwneud gwaith gwych”

Mae'n hyfryd gwrando ar y staff yn siarad â fy mam a'r berthynas sydd ganddynt â hi”

Beth mae ein rheoleiddwyr gofal cymdeithasol yn ei ddweud amdanom ni

"Mae anghenion iechyd a gofal pobl yn cael eu cefnogi a'u hyrwyddo. Mae gan weithwyr gofal ddealltwriaeth dda o anghenion iechyd a gofal unigolion ac maent wedi meithrin perthynas dda â nhw."

"Mae pobl yn teimlo'n ddiogel ac maent wedi'u hamddiffyn rhag niwed. Mae gan weithwyr gofal ddealltwriaeth dda o'u rôl o ran amddiffyn pobl."

 

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Gweld ein swyddi gwag ym maes gofal