Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol (CPLIL)

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Dyfed Pension Fund

Ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yw un o'r ffyrdd gorau o gynllunio ar gyfer eich ymddeoliad gan ei fod yn cynnwys amrywiaeth ardderchog o fuddion gan gynnwys:

  • Incwm wrth indecs sydd wedi'i warantu ac yn daladwy am eich oes ar ôl ymddeol.
  • Aswiriant bywyd ychwanegol o'r diwrnod cyntaf - bydd grant marwolaeth di-dreth cyfwerth â thair gwaith eich cyflog pensiynadwy tybiedig yn daladwy i'ch buddiolwyr enwebedig, os byddwch yn marw a chithau'n aelod gweithredol o'r cynllun.  Yn wahanol i fathau eraill o aswiriant bywyd nid oes rhaid cael archwiliad meddygol. 
  • Budd-daliadau Goroeswyr sy'n daladwy i'ch priod, eich partner sifil cofrestredig, eich partner cyd-fyw a enwebwyd a/neu unrhyw blant cymwys yn achos eich marwolaeth
  • Dewis trosi Pensiwn yn Arian Parod Di-dreth; am bob £1 o bensiwn y byddwch yn ei ildio, cewch £12 o arian parod di-dreth (yn amodol ar rai terfynau a bennir gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi).
  • Gan fod y cyfraniadau'n cael eu didynnu o'ch cyflog gros rydych yn talu llai o dreth, hyd yn oed ar unrhyw gyfraniadau ychwanegol y gallech eu gwneud er mwyn ychwanegu at eich buddion.
  • Rydych chi'n cyfrannu o ran cyllido eich ymddeoliad a hefyd mae eich Cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylweddol ar eich rhan a byddai'n annhebygol o wneud hynny â chynllun pensiwn personol.
  • Ni fydd unrhyw ffioedd neu gostau gweinyddol yn daladwy fel gall ddigwydd â phensiwn personol.  Yn syml, byddwch yn talu canran o'ch cyflog.
  • Dim Risg Buddsoddi gan fod y CPLlL yn gynllun budd-dal diffiniedig a reoleiddir drwy statud, felly byddwch yn derbyn lefel warantedig o bensiwn sy'n gysylltiedig â'ch cyflog terfynol wrth i chi ymddeol.
  • Ymddeoliad cynnar oherwydd salwch os byddwch yn dioddef salwch ac yn gorfod rhoi'r gorau'n barhaol i'ch gwaith (yn amodol ar archwiliad meddygol).
  • Y galli i ymddeol o 55 oed i 75 oed.
  • Dewis i gynyddu eich budd-daliadau trwy brynu pensiwn ychwanegol neu fuddsoddi mewn Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY).