Llesiant Gweithwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/02/2024

Mae'r awdurdod yn creu cyfleoedd a fydd yn canolbwyntio ar eich iechyd, eich diogelwch, a'ch llesiant, gan gefnogi mentrau sy'n darparu addysg a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd, diogelwch, a llesiant. Rydym yn integreiddio iechyd, diogelwch, a llesiant i'n ffordd o weithio, gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol, diogel ac iach lle gall pob gweithiwr ffynnu.

 

Iechyd a Llesiant

Rydym yn creu cyfleoedd a fydd yn canolbwyntio ar eich iechyd, eich diogelwch, a'ch llesiant, gan gefnogi mentrau sy'n darparu addysg a chyngor ar amrywiaeth eang o bynciau iechyd, diogelwch, a llesiant. Rydym yn integreiddio iechyd, diogelwch, a llesiant i'n ffordd o weithio, gan hyrwyddo amgylchedd cadarnhaol, diogel ac iach lle gall pob gweithiwr ffynnu.

Mae'r tîm Iechyd a Llesiant yn cefnogi llesiant corfforol a llesiant meddyliol gweithwyr yn gyfartal drwy ddarparu cyngor, arweiniad, a chyfeirio yn ogystal â chynnig atebion ymarferol â ffocws i reolwyr. Wrth wneud hynny, ein nod yw helpu i ddiogelu ein gweithlu a'r Awdurdod yn y dyfodol agos a'r tymor hir.

Rydym wedi llofnodi addewid Amser i Newid sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i gefnogi llesiant meddyliol ein holl weithwyr a lleihau stigma iechyd meddwl yn y gweithle.

Hefyd mae gan yr awdurdod rwydwaith o Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i gefnogi hyn.

Mae Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant yr awdurdod yn helpu'r Cydgysylltwyr Iechyd a Llesiant i gynyddu ymwybyddiaeth, bod yn rhagweithiol a hyrwyddo iechyd a llesiant da i bawb.

 

Iechyd Galwedigaethol 

Mae'r tîm Iechyd Galwedigaethol yn hyrwyddo ac yn cynorthwyo i gynnal iechyd corfforol ac iechyd meddyliol ein gweithwyr i’r safon uchaf posibl, ledled yr awdurdod. Rydym yma i helpu gweithwyr i aros yn y gwaith, dychwelyd i'r gwaith yn gynt a’u hatal rhag gadael y gwaith oherwydd salwch. 

Gall gweithiwr gael ei gyfeirio at Iechyd Galwedigaethol gan ei reolwr llinell ar unrhyw adeg, nid oes angen bod i ffwrdd o'r gwaith.

Yn dibynnu ar eich swydd, efallai y gofynnir i chi gymryd rhan mewn Arolygu Iechyd, a hynny er mwyn diogelu eich iechyd.

 

Mae'r awdurdod wedi cynnal gwobr Safon Iechyd Corfforaethol Platinwm ers 2009. Rhaglen gwobrau Cymru Iach ar Waith yw hon sy'n ceisio cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylchedd gwaith iach, cymryd camau i wella iechyd a llesiant eu staff, rheoli absenoldeb salwch yn dda ac ymgysylltu â gweithwyr yn effeithiol, a gall pob un o'r rhain helpu i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau sefydliadol a busnes cadarnhaol.