Ni yw un o'r ychydig awdurdodau lleol sydd, yn gyson dros nifer o flynyddoedd, wedi lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn eu sir ac rydym wedi gwneud hyn drwy arloesi yn ein timau gwaith cymdeithasol a buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol yn ogystal â gweithio i rymuso a chefnogi teuluoedd i ddod yn fwy gwydn.


Gyrfa a Ffordd o Fyw:

  • Timau bach sy'n cael cymorth da i'ch galluogi i dreulio mwy o amser gyda'ch teulu na'ch ffeiliau
  • Trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith
  • Timau cefnogol
  • Goruchwyliaeth reolaidd
  • Sir brydferth i fyw a gweithio ynddi 
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa 
  • Ffyrdd gwell o weithio?

 

Buddion staff:

  • £36,648-£44,428 (Gradd I-J)
  • Taliadau marchnad atodol
  • Gwyliau blynyddol hael 
  • Cynllun pensiwn Llywodraeth Leol sy'n perfformio'n dda gyda chyfraniadau gan gyflogwr
  • Opsiynau gweithio hyblyg a hybrid 
  • Cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio, siopa, diwrnodau allan, moduro, siopa a llawer mwy
  • Cymorth iechyd a llesiant galwedigaethol 
  • Polisïau amser i ffwrdd gan gynnwys absenoldeb mamolaeth uwch yn ogystal â thadolaeth, mabwysiadu, benthyg croth ac absenoldeb baban cynamserol
  • Dewisiadau rhannu swydd
  • Gwybodaeth am sut i gael mynediad at gynllun gofal plant di-dreth y Llywodraeth 
  • Opsiynau ymddeol hyblyg 

 

O Dydd i Ddydd:

  • Llwythi achosion y gellir eu rheoli sy'n cael eu hadolygu'n gyson 
  • Technoleg ac offer o'r radd flaenaf 
  • Cydgysylltwyr uned, ymarferwyr plant a theuluoedd a thîm cymorth cyswllt pwrpasol ar gyfer pob tîm gwaith cymdeithasol 
  • Gweithwyr proffesiynol i alw arnynt pan fydd angen gan gynnwys arbenigwyr cam-drin domestig, seicolegwyr addysg, gweithwyr cymdeithasol diogelu ysgolion a gwasanaethau gofal 
  • Tîm Gwasanaeth Atgyfeirio Plant Canolog i brysbennu achosion i'r timau cywir, gan ganolbwyntio ar atgyfeirio i wasanaethau ataliol lle bo hynny'n bosibl. 
  • Sesiynau myfyriol sy'n blaenoriaethu rheoli risg, datrys problemau a datblygu ymarfer yn ogystal â chymorth gan reolwyr fel na fydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd ar eich pen eich hun  
  • Ffocws ar eich llesiant i sicrhau eich bod yn gallu gwneud eich gwaith yn dda 
  • Gweledigaeth arfer glir sy'n canolbwyntio ar ddulliau sy'n seiliedig ar gryfderau ac wedi'i modelu ar Adfer Gwaith Cymdeithasol ac Arwyddion Diogelwch
  • Amrywiaeth ddatblygedig o wasanaethau ataliol a chymorth

 

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.