Beth rydym yn ei gynnig i’n graddedigion?

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Mae ein rhaglen i raddedigion ar gyfer 2021 bellach ar gau ar gyfer ceisiadau newydd.

Mae ein rhaglen graddedigion dwy-flynedd yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i raddedigion a'r rheini sy'n edrych i newid eu gyrfa, gan gynnwys rolau fel:

  • Dadansoddwyr data
  • Rheoli busnes
  • Rheoli Perfformiad
  • Rheoli digwyddiadau
  • Cyllid

Ar ôl i chi ddechrau ar eich swydd, gallwch ddisgwyl cael eich cynnwys ym mhob agwedd ar waith eich tîm, gan gynnwys:

  • Cyfuniad o ddysgu trwy gael profiad ymarferol
  • Cyfle i astudio a chael achrediad proffesiynol
  • Cyfle i ddysgu a datblygu drwy gyrsiau, seminarau a gweithdai mewnol ac allanol

Er enghraifft aseiniadau yn ymwneud â phrosiect, datrys problemau, gwaith dadansoddi ac ymchwil ynghyd â chymryd rhan mewn sesiynau briffio a chyfarfodydd mewnol ac allanol. Drwy gydol y cyfnod hwn byddwch yn cael llawer o gefnogaeth gan eich rheolwr llinell a fydd yn eich helpu chi o ran eich datblygiad proffesiynol a bydd y cymorth y byddwch yn derbyn gan gydweithwyr agos hefyd yn hwyluso eich cynnydd.