Cwestiynau cyffredin

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/03/2024

Bydd eich cais yn cau ar ôl 30 munud – mae hyn am resymau diogelwch.

Cofiwch gadw eich cais yn rheolaidd er mwyn osgoi colli unrhyw wybodaeth.

Os ydych chi wedi anghofio'ch manylion ers i chi gofrestru gallwch glicio ar y ddolen 'Wedi anghofio'ch manylion?' ym mlwch 'Eich cyfrif' yn y panel ar yr ochr chwith o dan ein logo.

Anfonir neges e-bost i'ch atgoffa ynghylch eich enw defnyddiwr neu anfonir cyfrinair dros dro atoch. 

Os mae eich cyfrif wedi cael ei rhewi, arhoswch 30 munud. Ar ôl 30 munud byddwch yn gallu rhoi cynnig arall ar fewngofnodi.

Mae eich cyfrinair a'ch enw defnyddiwr yn sensitif i faint llythrennau. Mae'n rhaid i'ch cyfrinair gynnwys o leiaf 8 nod a chymysgedd o briflythrennau, llythrennau bach ac o leiaf un rhif.

Os ydych chi'n dal i gael problemau, efallai y bydd angen i chi ailosod eich manylion mewngofnodi. Fel arall, gallwch cysylltwch â swyddi@sirgar.gov.uk a byddwn yn gallu ailosod eich cyfrinair yn ystod oriau arferol y swyddfa.

Rydym wedi cael gwybod bod rhai cyfrifon e-bost yn cael trafferth derbyn ein negeseuon e-bost.  Ewch i'ch ffolder negeseuon e-bost di-ofyn/sbam a dadflocio unrhyw negeseuon a anfonwyd atoch o'r cyfrifon e-bost canlynol:

Mae rhai o swyddi’r Cyngor yn swyddi sydd ‘o dan gyfyngiadau gwleidyddol’; golyga hyn nad yw’r staff a gyflogir i wneud y swyddi hynny yn gallu ymgymryd â gweithgarwch gwleidyddol. Nid yw holl swyddi’r Cyngor yn rhai sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol.

Deillia’r polisi hwn o’r traddodiad sy’n bod ers tro byd y dylid gweld bod gweithwyr llywodraeth leol yn cydymffurfio â pholisi amhleidioldeb gwleidyddol, a bod hyn yn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu dibynnu ar gael cyngor diduedd gan y gweithwyr hynny.

Diben y polisi hwn yw adlewyrchu’r darpariaethau deddfwriaethol presennol o ran swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, ac nid yw’n gontractiol.

Mae rhai defnyddwyr, yn enwedig y rhai sy'n defnyddio caledwedd Samsung yn cael anhawster i gyrchu'n tudalen 'Chwilio am Swyddi Gwag'. Mae neges rybuddio yn ymddangos sy'n dweud bod tystysgrif ddiogelwch y dudalen we yn annilys. Ewch ymlaen heibio i'r neges hon. Mae'r dudalen yn ddiogel.

Mater sy'n ymwneud â'r ddyfais yw hon gan nad yw Google yn diweddaru'r dystysgrif yn gywir ar system Android. Rydym yn gweithio i gael tystysgrif ddiogelwch ar y lefel briodol ar gyfer y dudalen hon.

Yn y cyfamser, llwythwch dystysgrifau QuoVadis Root CA2 a QuoVadis Global SSL ICA G2 ar eich dyfais.

Mae'n bosibl fod iaith eich porwr wedi'i osod i Saesneg yr Unol Daleithiau. Os ydych chi'n newid y gosodiad iaith i Gymraeg [cy] neu i Saesneg (y Deyrnas Unedig) [en-GB], yn cadw'r newid ac yna'n cau'r porwr a'i ailagor, dylai'r dyddiadau ymddangos yn y ffurf gywir.

Nid yw ffurflenni dilynol yn cadw'r wybodaeth a gofnodwyd mewn ceisiadau blaenorol gan y bydd angen, o bosibl, ichi deilwra'r wybodaeth ar gyfer gofynion pob swydd wag rydych chi'n ymgeisio amdani.

  • Geirda
  • Sgiliau Iaith
  • Ailsefydlu Troseddwyr
  • Datganiad yn Cefnogi'r Cais
  • Datganiad / Cadarnhau Manylion

Mae'r maes Cymwysterau gan gynnwys gradd/lefel yn derbyn 30 nod yn unig (a dim nodau arbennig).  Defnyddiwch fyrfoddau ystyrlon os bydd angen.

Rydym yn awgrymu eich bod yn cofnodi pob cymhwyster ar wahân.

Noder: Unwaith yn unig y bydd angen ichi gofnodi'r manylion hyn a bydd y system yn eu cadw ar gyfer pob cais yn y dyfodol. Os ydych yn teimlo bod angen ichi esbonio'r byrfoddau, gwnewch hynny yn eich Datganiad yn Cefnogi'r Cais. 

Peidiwch ag anfon eich CV yn lle’r ffurflen gais, oherwydd ni fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer asesu.  Hefyd, peidiwch â chysylltu eich CV wrth y ffurflen gais gan fod ein hasesiad yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir yn y ffurflen gais yn unig.  Mae hynny’n golygu ein bod yn gallu asesu eich sgiliau ac yn y blaen trwy eu cymharu â’r rhai sydd gan ymgeisydd arall, a hynny mewn ffordd deg a chyson.

Nodwch y sgiliau iaith sydd gennych.  Mae’n bwysig eich bod yn nodi lefel y rhuglder sydd gennych.  Cyfeiriwch at y fanyleb person i weld lefel y rhuglder sy’n ofynnol a defnyddiwch y canllaw isod i asesu eich sgiliau eich hun.

LEFEL 1

Gwrando/Siarad

  • Medru ynganu enwau llefydd ac enwau personol yn gywir.
  • Medru cyfarch cwsmeriaid mewn derbynfa neu ar y ffôn.
  • Medru agor a chloi sgwrs.

Darllen

  • Medru deall testun byr ynglŷn â phwnc cyfarwydd pan wedi ei gyfleu mewn iaith syml, e.e. arwyddion elfennol, cyfarwyddiadau syml, deall cynnwys agenda.

Ysgrifennu

  • Medru ysgrifennu enwau personol, enwau llefydd, teitlau swyddi ac enwau adrannau’r Cyngor.


LEFEL 2

Gwrando/Siarad

  • Medru deall craidd sgwrs.
  • Medru derbyn a deall negeseuon syml ar batrymau arferol, e.e. amser a lleoliad cyfarfod, cais am siarad gyda rhywun.
  • Medru cyfleu gwybodaeth elfennol a chyfarwyddiadau syml.
  • Medru agor a chau sgwrs a chyfarfod yn ddwyieithog.

Darllen

  • Medru deall y rhan fwyaf o adroddiadau byrion a chyfarwyddiadau arferol o fewn arbenigedd y gwaith, â bod digon o amser wedi ei ganiatáu.

Ysgrifennu

  • Medru llunio neges fer syml ar bapur neu e-bost i gydweithiwr o fewn y Cyngor neu gyswllt cyfarwydd y tu allan i’r Cyngor.


LEFEL 3

Gwrando/Siarad

  • Medru deall a chymryd rhan yn y rhan fwyaf o sgyrsiau arferol o ddydd i ddydd yn y swyddfa.
  • Medru cynnig cyngor i’r cyhoedd ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.
  • Medru cyfrannu i gyfarfod neu gyflwyniad ar faterion cyffredinol mewn perthynas â’r swydd, er yn gorfod troi i Saesneg ar gyfer termau technegol neu arbenigol.

Darllen

  • Medru deall y rhan fwyaf o’r adroddiadau, dogfennau a gohebiaeth y byddai disgwyl eu trafod yng nghwrs arferol y gwaith.

Ysgrifennu

  • Medru llunio negeseuon ac adroddiadau anffurfiol at ddefnydd mewnol.

 

LEFEL 4

Gwrando/Siarad

  • Medru cyfrannu’n effeithiol mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yng nghyd-destun y pwnc gwaith.
  • Medru deall gwahaniaethau cywair a thafodiaith.
  • Medru dadlau o blaid ac yn erbyn achos penodol.
  • Medru cadeirio cyfarfodydd ac ateb cwestiynau o’r Gadair yn hyderus.

Darllen

  • Medru deall gohebiaeth ac adroddiadau pwnc wedi eu llunio mewn cywair safonol.

Ysgrifennu

  • Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd gyda chymorth golygyddol.


LEFEL 5

Gwrando/Siarad

  • Medru cyfrannu’n rhugl a hyderus yng nghyswllt pob agwedd ar y gwaith beunyddiol, gan gynnwys trafod a chynghori ar faterion technegol, arbenigol neu sensitif.
  • Medru cyfrannu i gyfarfodydd a darparu cyflwyniadau yn rhugl a hyderus.

Darllen

  • Medru deall adroddiadau, dogfennau ac erthyglau y byddai disgwyl eu darllen yng nghwrs arferol y gwaith, gan gynnwys cysyniadau cymhleth a fynegir mewn iaith astrus.

Ysgrifennu

  • Medru llunio gohebiaeth fusnes, adroddiadau byr, negeseuon e-bost a llenyddiaeth hysbysrwydd i safon dderbyniol gyda chymorth cymhorthion iaith.
  • Medru llunio nodiadau manwl wrth gymryd rhan lawn mewn cyfarfod.

Rydym ni'n annog pawb i gyflwyno cais ar-lein. Derbynnir ceisiadau ar ffurf arall pan fydd ymgeisydd yn cael anhawster i gwblhau'r ffurflen ar-lein oherwydd anabledd. O dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, byddwn yn gwneud trefniadau eraill i'ch helpu â'r broses gan e-bostio swyddi@sirgar.gov.uk

Pro Rata yw cyfran y cyflog llawn amser (37 awr) a ddyfynnir os ydych yn gweithio yn ystod y Tymor/Rhan Amser.

 

Telir lwfans o 4% i gydnabod gweithio yn ystod y Tymor.

Telir lwfans o 8% os ydych yn gweithio'n rheolaidd 2 ddiwrnod neu fwy ar y penwythnos allan o bob 4 wythnos.

Mae ein safle gyrfaoedd wedi'i gynllunio i gefnogi ein hymgeiswyr i ddod o hyd i'r cyfle addas gorau sydd gennym ar gael ar unrhyw adeg benodol.

Gallwch gofrestru ar y Ganolfan Geisiadau sy'n eich galluogi i weld y swyddi gwag sydd ar gael; creu rhybuddion swydd i gyd-fynd â'r math o rôl rydych chi'n chwilio amdani; gwneud ceisiadau; gweld statws ceisiadau wedi'u cwblhau; gweld yr holl gyfathrebu; trefnu cyfweliadau a hyd yn oed derbyn cynigion am swyddi.

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch wedyn wasgu'r botwm 'Gwneud cais' am unrhyw swydd wag y mae gennych ddiddordeb ynddi a chwblhau'r ffurflen gais.

Gallwch. Pan fyddwch yn cofrestru am y tro cyntaf, gofynnir i chi ym mha iaith yr hoffech gyflwyno unrhyw geisiadau a derbyn unrhyw ohebiaeth. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol na fyddwch yn gallu newid yr iaith ar ôl i chi ei dewis! Bydd angen i chi ail-gofrestru.

Ydy. Os yw'r swydd yn dal ar agor neu os yw swydd newydd ei hysbysebu, ac mae wedi bod o leiaf chwe mis ers eich cyfweliad diwethaf, ac mae croeso i chi wneud cais am swyddi gwag eraill hefyd.

Rydym yn ceisio ymateb i bawb o fewn ychydig wythnosau o wneud cais. Gyda rolau mwy poblogaidd, gall hyn gymryd ychydig yn hirach. Gofynnir i chi fod yn amyneddgar. 

Gallwch. Byddwch yn derbyn diweddariadau e-bost wrth i'ch cais fynd yn ei flaen drwy'r broses recriwtio a gallwch wirio statws eich cais yn y Ganolfan Geisiadau. 

Rydym yn ceisio ymateb i bawb o fewn ychydig wythnosau o wneud cais. Gyda rolau mwy poblogaidd, gall hyn gymryd ychydig yn hirach. Gofynnir i chi fod yn amyneddgar. 

Mae pawb sy'n gwneud cais yn cael yr un amser ac ystyriaeth. Ond mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwneud i sicrhau bod eich cais yn disgleirio. Yn gyntaf, gwnewch eich ymchwil a rhowch wybod i ni pam mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r tîm. Yn ail, rhowch sylw manwl i'r meini prawf hanfodol a dymunol yr ydym yn chwilio amdanynt yn y proffil swydd, a sicrhewch fod eich cais yn dangos sut yr ydych chi'n eu bodloni neu ba sgiliau trosglwyddadwy sydd gennych chi er mwyn eu bodloni.

Darllenwch ein canllaw Sut i ysgrifennu datganiad ategol.

Os ydych yn wladolyn tramor ac nad oes gennych ganiatâd i weithio yn y DU ar hyn o bryd, byddai angen i chi wneud cais am fisa i weithio yn y DU. 

Rydym yn dal y drwydded nawdd berthnasol i noddi gweithwyr o dramor. Fel deiliaid y drwydded, mae rhai rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'n rhaid i ni eu cyflawni e.e., sicrhau bod prinder llafur yn y math o swydd y mae'r ymgeisydd yn gwneud cais amdani; sicrhau bod cyflog y swydd yn dod o dan ganllawiau'r DU ar gyfer nawdd. Darllenwch ragor o arweiniad drwy fynd i https://www.gov.uk/uk-visa-sponsorship-employers/types-of-licence

Fel arall, gweler gwefan y llywodraeth am yr holl opsiynau gwahanol ar gyfer fisa https://www.gov.uk/check-uk-visa

Gallwch, os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi wneud cais ar-lein, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio a enwir yn yr hysbyseb swydd a all eich cynorthwyo a thrafod ffyrdd eraill o wneud cais.

Bydd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn cael ei nodi yn yr hysbyseb swydd, a'r amser hwyraf i gyflwyno cais yw 11.59pm (amser y DU) oni nodir yn wahanol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael eu recriwtio ar sail teilyngdod, heb ystyried oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred), rhyw a chyfeiriadedd rhywiol. Bydd y wybodaeth y gofynnir i chi ei darparu yn cael ei gwahanu oddi wrth eich cais ac ni fydd yn cael ei defnyddio fel rhan o'r broses ddethol mewn unrhyw ffordd. 

Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol a dim ond i'n helpu i fonitro effeithiolrwydd ein Polisi Cyfle Cyfartal y bydd yn cael ei defnyddio.

Mae llawer o ragfarnau yn anymwybodol. Gall person gael y gorau o fwriadau a bod yn gwbl anymwybodol bod rhagdybiaethau isymwybod ar eu rhan yn dylanwadu ar bwy y mae eu perfedd yn dweud wrthynt y byddai'n ffit da. 

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' ar y rhestr fer, sy'n golygu na fydd rheolwyr recriwtio yn gallu cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer. 

Mae'r Cyngor wedi'i gydnabod gan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd a'r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig i Gyn-filwyr. Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwarantu y byddwn yn cyfweld ag unrhyw un ag anabledd, neu sy'n gyn-filwr, sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd ac sydd wedi dewis cael ei ystyried o dan y cynllun hwn. Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi ddweud a ydych am gael eich ystyried o dan y naill gynllun neu'r llall o'r cynlluniau hyn.

Fel arfer, bydd eich cyfweliad yn cynnwys panel o sawl aelod o'r tîm, ond rydym yn ceisio ei gyfyngu i dri o bobl, i sicrhau nad ydych yn teimlo bod y sefyllfa'n ormod i chi. Efallai y bydd gofyn i chi baratoi cyflwyniad neu wneud ymarfer, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwn yn eich gwahodd i ddod i'r cyfweliad.

Bydd yn dibynnu ar y swydd rydych yn gwneud cais amdani, ond byddwch yn cael gwybod fel rhan o'r broses ymgeisio a fydd angen i chi fynychu canolfan asesu, boed wyneb yn wyneb neu ar-lein, a fformat y ganolfan asesu. 

Bydd y llythyr sy'n eich gwahodd i gyfweliad yn nodi'r ddogfennaeth y gofynnir i chi ddod â hi - gallai hyn gynnwys tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU ac unrhyw gymwysterau, tystysgrifau, neu gofrestriadau proffesiynol perthnasol.

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i baratoi ar gyfer eich cyfweliad, gan gynnwys:

Gwnewch eich ymchwil – darganfyddwch gymaint ag y gallwch amdanom ni, yr adran neu'r is-adran sy'n cynnal y cyfweliad, a phwy fydd yn cyfweld â chi. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar ein gwefan, a bydd yn ddefnyddiol i chi wybod cyn i chi gwrdd â'r panel cyfweld.

Dadansoddi'r swydd – dylech ymgyfarwyddo eto â'r Proffil Swydd fel eich bod yn glir beth mae'r swydd yn ei olygu. Bydd y panel cyfweld yn chwilio am dystiolaeth eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y swydd fel yr amlinellir yn y Proffil Swydd.

Meddyliwch am enghreifftiau penodol – yn seiliedig ar y meini prawf hanfodol a dymunol yn y Proffil Swydd, rhowch rai enghreifftiau penodol o'ch gwaith neu'ch profiad presennol a blaenorol sy'n dangos i'r panel cyfweld mai chi yw'r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd.

Darllenwch eich ffurflen gais – byddwch yn barod i esbonio neu ymhelaethu ar fanylion a ddarparwyd gennych wrth ymgeisio am y swydd. 

Dewch yn barod gyda chwestiynau - dylech am ddeall rhagor amdanom ni a'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani, ond mae hefyd yn dangos i'r panel cyfweld eich bod wedi gwneud eich ymchwil!

Paratowch eich dogfennau – bydd eich gwahoddiad i'r cyfweliad yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y dylech ddod ag ef, megis tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Sicrhewch fod gennych y ddogfennaeth gywir cyn eich cyfweliad.

Gwiriwch eich cysylltiad a'ch trefniadau - os yw'ch cyfweliad yn rhithwir, sicrhewch fod gennych le tawel, cysylltiad rhyngrwyd sefydlog, a'r offer cywir ar gyfer eich galwad. 

Os yw eich cyfweliad yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb, cynlluniwch eich taith – sicrhewch eich bod yn gwybod i ble rydych chi'n mynd a chynlluniwch eich llwybr i gyrraedd yno, gan ganiatáu ar gyfer unrhyw oedi posibl i drafnidiaeth. Dewch â rhif ffôn y person sydd wedi'ch gwahodd i'r cyfweliad rhag ofn y byddwch yn mynd ar goll neu eich bod yn hwyr.

Peidiwch â chynhyrfu. Rhowch wybod i'ch cyfwelwyr am beth sy'n digwydd. Os, am ba reswm bynnag, na allwch barhau, anfonwch e-bost at bawb a oedd wedi cael copi o'ch cadarnhad cyfweliad. Fel hyn, gallwn aildrefnu ar gyfer diwrnod neu amser diweddarach.

Byddwn yn ceisio ein gorau i ymateb i chi o fewn ychydig ddyddiau, er y gall hyn gymryd ychydig yn hirach weithiau os oes nifer o ymgeiswyr yn cyfweld ar gyfer yr un rôl. 

 

Llwythwch mwy