Geirdaon

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/02/2024

Dylech ddewis eich cyflogwr presennol a'ch cyflogwr diweddaraf fel eich dau ganolwr. Er ein bod yn sylweddoli na fydd hwn yn bosibl bob amser, bydd angen ichi ddarparu geirda ar gyfer unrhyw fylchau yn eich cyflogaeth. Gallai hwn fod yn eirda personol neu'n eirda gan y Ganolfan Waith os ydych wedi'ch cofrestru'n ddi-waith.

Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch roi enw rhywun sydd wedi'ch adnabod yn rhinwedd swydd broffesiynol e.e. cyfrifydd neu gyfreithiwr. Os ydych newydd adael addysg lawn-amser dylech roi enw athro/athrawes eich cwrs neu Bennaeth yr Ysgol.

Os ydych yn dychwelyd i weithio ar ôl seibiant gyrfa, yna gallwch roi enw rhywun sy'n eich adnabod yn dda ond heb fod yn perthyn ichi, er enghraifft, eich meddyg teulu neu arweinydd grŵp cymunedol y buoch chi'n rhan ohono.

Os na enwch ganolwr, efallai na fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Nid ydym yn penodi rhywun heb gael geirda ac er mwyn cyflymu'r broses, gan amlaf rydym yn cysylltu â'r canolwyr cyn y cyfweliad. Yn achos yr holl swyddi diogelu* byddwn yn gofyn am eirda cyn y cyfweliad.

Os nad yw'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn rôl ddiogelu bydd modd ichi roi gwybod inni pryd rydych chi am inni gysylltu â'r canolwyr.

Os ydych yn gwneud cais am rôl ddiogelu ac nad ydych wedi gweithio yn y maes hwn yn y ddwy flynedd diwethaf byddwn yn gofyn am eirda gan eich cyflogwr diogelu mwyaf diweddar.

Gallwch gael rhagor o gyngor ynghylch canolwyr addas gan Dîm Recriwtio Adnoddau Dynol. Gallwn ofyn am ganolwr arall os nad ydym yn credu bod yr un rydych wedi'i ddarparu'n addas.

*Rolau diogelu yw'r rheiny sy'n ymwneud â phlant, a grwpiau agored i niwed.