Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024

Un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr holl landlordiaid cymdeithasol yn gwneud yn siŵr bod eu tenantiaid yn byw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau diogel.

Safon ar gyfer ansawdd a chyflwr eiddo yw Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae SATC yn ei gwneud yn ofynnol i'r holl dai cymdeithasol fod:

  • Mewn cyflwr da
  • Yn ddiogel
  • Yn ddigon cynnes, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi'u hinswleiddio'n dda
  • Yn cynnwys y ceginau a'r ystafelloedd ymolchi diweddaraf
  • Mewn mannau deniadol a diogel
  • Wedi eu rheoli'n dda

Bu i Sir Gaerfyrddin, drwy weithio gyda'i denantiaid, ddatblygu SATC ymhellach i greu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a chwblhawyd y gwaith hwn yn 2015. Rydym bellach yn gweithio gyda thenantiaid i gynnal a gwella rhagor ar y safon i ddiwallu anghenion yn y dyfodol.

Yn 2022/23 bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwario £6,196,000 ar welliannau SATC. Mae rhagor o wybodaeth am SATC ar gael drwy glicio ar y ddolen isod.

Safon ansawdd tai Cymru

 

Tai