Tenant - Deiliad y Contract

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Beth yw y Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016?
Mae y Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gyfraith newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Cymru ers peth amser ac wedi cael eu craffu a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru
Beth yw'r prif newidiadau? 
  • Bydd ‘tenantiaethau’ bellach yn cael eu hadnabod fel ‘contractau meddiannaeth’.
  • Bydd Landlordiaid Cymdeithasol bellach yn cael eu hadnabod fel ‘Landlordiaid Cymunedol’
  • Rhaid gwneud pob cais am ganiatâd gan denantiaid yn ysgrifenedig ac ymateb iddo o fewn 1 mis
  • Bydd cyd-ddeiliad contract yn gallu ymddiswyddo neu dynnu'n ôl o'r contract heb i'r contract ddod i ben ar gyfer gweddill y cyd-ddeiliaid contract.
    • Gellir ychwanegu cyd-ddeiliaid contract newydd heb orfod terfynu'r contract presennol
  • Bellach gall landlordiaid adennill meddiant o eiddo a adawyd heb wneud cais i'r llys

 

O dan y gyfraith newydd, bydd contractau meddiannaeth yn disodli'r tenantiaethau presennol. Mae contract meddiannaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin fel landlord a chi, deiliad y contract.

Ar 1 Rhagfyr 2022, bydd yr holl gytundebau tenantiaeth presennol yn newid yn awtomatig yn gontract meddiannaeth. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth er mwyn i hyn ddigwydd.

Yn achos contractau a newidiwyd, mae gennym hyd at chwe mis o 1 Rhagfyr 2022 i roi datganiad ysgrifenedig o'r contract i chi. Gallwn roi eich datganiad ysgrifenedig ar ffurf copi papur neu drwy e-bost, gan ddibynnu ar yr hyn sydd orau gennych chi, deiliad y contract.

Bydd llawer o'ch telerau tenantiaeth presennol yn aros yr un peth ond bydd rhai eraill yn cael eu disodli gan delerau yn y Ddeddf.

Byddwch yn cael cyfle i lofnodi i ddweud eich bod wedi derbyn eich contract.
Yn achos contractau meddiannaeth newydd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn cael datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu o dan y contract.

Mae'r datganiad ysgrifenedig yn nodi telerau eich contract. Mae hyn yn disodli eich cytundeb tenantiaeth.

Dylai'r contract egluro'r hyn y gallwch ei wneud a'r hyn na allwch ei wneud, a'r hyn y gall Cyngor Sir Caerfyrddin, fel eich landlord, ei wneud a'r hyn na all ei wneud.

Dylai'r contract hwn gynnwys:

  • Enwau'r unigolion sy'n rhentu a chyfeiriad yr eiddo sy'n cael ei rentu.
  • Hawliau a chyfrifoldebau. Er enghraifft, cyfrifoldeb y landlord yw trwsio pethau yn y cartref.
  • Materion o ddydd i ddydd. Er enghraifft, dweud wrth y landlord os nad oes neb yn mynd i fod yn y cartref am 4 wythnos neu fwy.
  • Gwybodaeth arall. Er enghraifft, a ydych chi'n cael cadw anifeiliaid anwes neu beidio.

Nod y rheoliadau Ffitrwydd i fod yn Gartref yw atal, er mwyn helpu i sicrhau bod anheddau'n cael eu cynnal a'u cadw a sicrhau bod eich cartref yn addas i fyw ynddo.

Er enghraifft, mae'n rhaid i ni wneud y canlynol:

  • Gosod larwm mwg
  • Gosod larwm carbon monocsid
  • Gwneud yn siŵr bod y trydan yn ddiogel

Os ydych yn credu bod eich cartref yn anaddas, dylech godi unrhyw bryderon gyda ni.

Gellir ychwanegu neu dynnu deiliaid contract o gontract meddiannaeth heb fod angen dod ag un contract i ben a dechrau un arall.

Gallwch ofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin, fel eich landlord, ychwanegu rhywun rydych am fyw gydag ef/hi at eich contract. Nid oes rhaid i chi ddechrau contract newydd i wneud hyn.

Yn syml, mae olyniaeth yn golygu, pan fyddwch chi'n marw, y gallwch chi basio eich cartref ymlaen i aelod arall o'r teulu neu ofalwr sy'n byw yno gyda chi ar hyn o bryd. Bellach gellir pasio eich cartref ymlaen hyd at ddwy waith – yn gyntaf i olynydd â blaenoriaeth (er enghraifft, eich priod/partner) ac yna olynydd wrth gefn (er enghraifft, eich plentyn sy'n oedolyn neu ofalwr).

O 1 Rhagfyr 2022 ymlaen, bydd y cyfnod rhybudd ar gyfer cynyddu rhent yn dyblu o un mis i ddau fis a dim ond un cynnydd y flwyddyn all fod.

Gall landlordiaid bellach adfeddiannu eiddo a adawyd heb fod angen gorchymyn llys, ar ôl cyflwyno hysbysiad rhybudd o bedair wythnos a chynnal ymchwiliadau i fod yn sicr bod yr eiddo wedi cael ei adael.

Ymddygiad gwaharddedig yw'r term a ddefnyddir yn y Ddeddf i ddiffinio ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad annymunol arall. Ystyrir mai torri contract yw hyn ac mae'n cynnwys pob ymddygiad a allai effeithio ar bobl eraill.

Mae hyn yn golygu na ddylai unrhyw berson sy'n byw yn eich cartref neu sy'n ymweld â'ch cartref ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys sŵn gormodol, cam-drin geiriol ac ymosodiad corfforol. Gall ymddygiad gwaharddedig hefyd gynnwys cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol).

Bydd yn rhaid i'r holl eiddo rhent yng Nghymru fod yn addas i fyw ynddynt. Pan fyddwch yn rhoi gwybod am waith atgyweirio, mae'n rhaid i ni ymateb drwy gadarnhau a oes gwaith atgyweirio, pwy sy'n gyfrifol (cyfrifoldeb deiliad y contract yw rhai atgyweiriadau) a phryd y bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud.

Rhaid gwneud y gwaith atgyweirio o fewn cyfnod rhesymol ar ôl i chi roi gwybod i ni. Mae'n rhaid i ni hefyd gywiro unrhyw ddifrod sy'n cael ei achosi gan waith ac atgyweiriadau rydym ni'n eu gwneud.

Cewch wybod yn ysgrifenedig am apwyntiadau, archwiliadau a gwaith sydd i'w wneud.

Mae'r rhain yn newydd o dan y Ddeddf ac yn cymryd lle'r hyn a arferai gael ei alw'n gydgyfnewid. Mae gennych hawl i drosglwyddo eich contract meddiannaeth diogel i berson arall sy'n bodloni'r meini prawf i fod yn gymwys. Mae'r hawl yn dibynnu arnom ni, fel eich landlord, yn rhoi caniatâd.

Caniateir trosglwyddiadau mewn dwy sefyllfa:

  • Trosglwyddo i olynydd posibl
  • Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall

Os ydych am ddysgu mwy am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ewch i wefan Llywodraeth Cymru:


https://llyw.cymru/rhentu-cartrefi-cwestiynau-cyffredin-tenantiaid
https://llyw.cymru/mae-cyfraith-tai-yn-newid-rhentu-cartrefi

 

Llwythwch mwy

 

Tai