Gwresogi eich cartref

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2024

Mae yna nifer o fuddion ariannol i'ch helpu chi i leihau eich biliau tanwydd. Rhoddir taliad tanwydd gaeaf (a elwir weithiau'n lwfans tanwydd gaeaf), taliad tywydd oer a gostyngiad cartrefi cynnes yn awtomatig i'r rheiny sy'n gymwys i'w derbyn. Fodd bynnag, mae'n well bob amser edrych i weld a ydych yn derbyn y taliadau hyn.

Taliad blynyddol yw'r Taliad Tanwydd Gaeaf neu'r Lwfans Tanwydd Gaeaf, er mwyn helpu â chostau gwresogi, ac fe'i rhoddir i aelwydydd sy'n cynnwys rhywun a anwyd ar neu cyn 5 Awst 1953. Dylai gael ei dalu'n awtomatig drwy Bensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Budd-dal Plant na'r Credyd Cynhwysol).

GOV.UK – TALIAD TANWYDD GAEAF

Rhoddir Taliad Tywydd Oer os cofnodir bod y tymheredd cyfartalog yn eich ardal yn 0°C neu'n is, neu os rhagwelir hynny, am 7 diwrnod yn olynol. Cewch daliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Gallech gael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn y canlynol:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Credyd Cynhwysol

GOV.UK - TALIAD TYWYDD OER

Mae'r cyflenwyr ynni mwyaf yn rhoi Gostyngiad Cartrefi Cynnes i gynorthwyo pobl sydd mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd. Mae rhai o'r cyflenwyr cyfleustodau llai hefyd yn cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol. Drwy'r cynllun, gallech gael taliad unwaith yn unig o £140 a dynnir oddi ar eich bil trydan yn uniongyrchol. Mae hyn yn ychwanegol at y Taliad Tanwydd Gaeaf a'r Taliad Tywydd Oer.

GOV.UK - CYNLLUN GOSTYNGIAD CARTREFI CYNNES

Mae'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth yn wasanaeth am ddim a ddarperir gan gyflenwyr cyfleustodau a gweithredwr y rhwydwaith. Gallwch gael y cymorth os ydych:

  • wedi cyrraedd oedran pensiwn
  • yn anabl neu â salwch cronig
  • os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor
  • os oes plant yn byw gyda chi sydd dan 5 oed
  • os oes gennych nam ar eich clyw neu ar eich golwg neu anghenion cyfathrebu ychwanegol
  • os ydych yn agored i niwed.

Mae'r cymorth yn amrywio gan ddibynnu ar y cyflenwr ac ar amgylchiadau'r unigolyn, ac ymhlith y gwasanaethau a gynigir y mae'r canlynol:

  • Biliau fformat mawr neu mewn Braille
  • Rhybudd ymlaen llaw ynghylch tarfu ar y gwasanaeth
  • Blaenoriaeth os bydd y cyflenwad trydan yn methu
  • Darllen mesuryddion bob chwarter
  • Archwiliadau diogelwch nwy bob blwyddyn
  • Symud mesuryddion i sicrhau mynediad gwell

Er mwyn ymuno â'r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth, bydd angen ichi gysylltu â'ch holl gyflenwyr cyfleustodau yn uniongyrchol. Mae eu manylion cyswllt i'w cael ar eu gwefannau neu ar y biliau a anfonir atoch.

Mae Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys cynlluniau Nyth, yn darparu cymorth ariannol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni gartrefi incwm isel a'r rheini sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim, ac os ydych yn gymwys, becyn o welliannau ynni-effeithlon i'r cartref am ddim, megis boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddio. Gall hyn leihau eich biliau ynni a gall fod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cadw eich cartref yn gynnes neu ymdopi â'ch biliau ynni, ffoniwch ni ar Radffon 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru.

GWEFAN NYTH CYMRU