Clybiau tanwydd

Diweddarwyd y dudalen ar: 28/09/2023

Os ydych chi’n byw mewn ardal wledig ac yn defnyddio olew, ystyriwch ymuno â Chlwb Tanwydd, lle gallwch chi swmp-brynu olew gyda’ch cymdogion, a rhannu’r arbedion. Syndicetiau olew yw clybiau tanwydd lle mae aelodau'r gymuned yn prynu eu holew gyda'i gilydd er mwyn arbed cymaint o arian â phosibl. Gallwch arbed hyd at 7c y litr os ydych yn ymuno â Chlwb Tanwydd.

  • Clwb Tanwydd Brynaman - Canolfan y Mynydd Du bob dydd Mercher rhwng 9 a 10yb neu e-bostiwch brynammanfuelclub@hotmail.com
  • Clwb Tanwydd Capel Iwan – e-bostiwch capeliwanfueloil@yahoo.com
  • Clwb tanwydd Carway - e-bostiwch carwefuelclub@hotmail.com
  • Clwb Tanwydd Talacharn – e-bostiwch laugharnefuelclub@hotmail.co.uk
  • Clwb Tanwydd Llanymddyfri – e-bostiwch llandoveryanddistrictfuelclub@gmail.com
  • Clwb Tanwydd Llandybïe – e-bostiwch Llandybiefuelclub@hotmail.co.uk
  • Clwb Tanwydd Llandysul - ffoniwch Ian ar 01559 418356
  • Clwb Tanwydd Castellnewydd Emlyn a Drefach Felindre – e-bostiwch lloydthomas464@gmail.com

Tai