Effeithlonrwydd ynni

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/09/2022

Gallai ambell newid syml yn eich cartref wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd ac i’ch poced. Mae biliau nwy, trydan a dŵr yn cyfrif am swm sylweddol o wariant aelwyd, felly mae’n bendant yn werth ystyried ffyrdd o wella effeithlonrwydd eich cartref i’w wneud yn fwy cyfforddus, ac yn rhatach i’w gynnal. Wrth gwrs, byddwch hefyd yn helpu i leihau eich ôl-troed carbon.

Ffyrdd syml o arbed arian ar eich biliau ynni

  • Gallai troi eich thermostat i lawr un radd yn unig arbed cymaint â £60 ar eich biliau ynni
  • Llenwch unrhyw le gwag yn eich rhewgell â phapur newydd wedi'i rolio
  • Wrth goginio ar yr hob, peidiwch â defnyddio mwy o ddŵr nag sydd angen i ferwi eich bwyd, a pheidiwch â gadael i’r fflamau godi o amgylch y sosban.
  • Tynnwch eich llenni adeg y cyfnos
  • Diffoddwch y goleuadau mewn ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio a defnyddiwch fylbiau sy'n arbed ynni
  • Peidiwch â gadael teclynnau mewn modd segur
  • Peidiwch â llenwi'r tegell â dŵr diangen
  • Rhowch lwyth llawn mewn peiriannau golchi a sychu oni bai fod gennych osodiadau hanner llwyth
  • Peidiwch â gadael i dapiau ddiferu, yn enwedig tapiau dŵr poeth
  • Caewch ddrysau i gadw gwres mewn ystafelloedd
  • Addaswch y system rheoli gwres (gweler cyfarwyddiadau penodol am wres) 21°c yn ystafell fyw 18°c mewn mannau eraill

Awgrymiadau arbed ynni

  • Edrychwch am sgoriau A, A+, A++ ac A+++ wrth ddewis peiriannau newydd i weld pa mor effeithlon ydynt o ran ynni.
  • Oes gennych chi fesurydd dŵr? Beth am fuddsoddi mewn casgen ddŵr a defnyddio’r dŵr sy’n crynhoi i ddyfrhau’r ardd neu i olchi’r car?
  • Os oes gennych chi hen foeler aneffeithlon ‘gradd G’, gallech dynnu 25% oddi ar eich bil gwresogi trwy newid y boeler am fodel newydd ‘gradd A’ gyda mesurau rheoli gwres modern.
  • Gallai newid hen ffenestri gwydr sengl drafftiog am wydr dwbl newydd arbed cymaint â £180 i chi ar eich bil gwresogi.
  • Gallai teulu o bedwar arbed rhyw £75 y flwyddyn ar wresogi dŵr, yn ogystal â £90 arall ar filiau dŵr os oes gennych chi fesurydd dŵr, trwy newid pen safonol y gawod am fersiwn sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon. Os oes gennych chi gawod sy’n cymysgu’r dŵr, gallech osod rheoleiddiwr llif yn y gawod – gall y ddyfais syml hon arbed £40 y flwyddyn ar eich biliau tanwydd, a gellir ei gosod ar bibell y gawod heb wybodaeth arbenigol.
  • Ydy eich lofft wedi’i inswleiddio? Y dyfnder safonol ar gyfer inswleiddio yn y lofft ar hyn o bryd yw 270mm. Os nad yw eich inswleiddio’n cyrraedd y safon honno gallech chi fod yn gymwys i dderbyn cymorth i ychwanegu ato naill ai am bris arbennig neu am ddim trwy unrhyw un o’r chwe phrif gwmni cyfleustodau. Trwy inswleiddio lofft sydd heb ei inswleiddio hyd at 270mm gallech arbed £150 y flwyddyn ar eich biliau gwresogi. Hyd yn oed os byddwch yn cynyddu 100mm i 270mm gallech chi arbed rhyw £15 y flwyddyn.
  • Pan fydd eich bil trydan neu nwy yn cyrraedd, gwnewch yn siŵr bod y darlleniadau arno yn gywir. Os amcangyfrifir eich biliau, yna gwnewch yn siŵr bod y cwmnïau cyfleustodau yn cael y darlleniadau cywir cyn gynted â phosib.

Tai