Ceir Cefn Gwlad

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Ceir Cefn Gwlad yw gynllun rhannu ceir lle mae cymunedau’n trefnu bod gyrwyr gwirfoddol yn roi lifft i bobl na fyddent fel arall yn gallu mynd ar deithiau hollbwysig. Lluniwyd cynllun Ceir Cefn Gwlad yn gynllun wrth gefn i’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan ddarparu cysylltiadau â bysiau, trenau neu wasanaeth cludo o ddrws i ddrws pan fo angen, i ateb anghenion unigol ac achlysurol.

Ydych chi'n gymwys?

Fe allwch chi ei ddefnyddio, ar yr amod bod eich taith yn hanfodol ac nad oes gennych unrhyw fodd rhesymol arall o wneud y daith. Ni all Ceir Cefn Gwlad gystadlu â mathau eraill o gludiant, yn enwedig gwasanaethau bws, tacsi a thrên lleol a chludiant a ddarperir gan gyrff eraill megis Gwasanaeth Gofal Cleifion y Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Cysylltwch a ni ar 01267 234567 i ateb cwpwl o cwestiynau i darganfod os rydych yn cymwys i ddefnyddio'r Gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad.

I newid neu ganslo taith, cysylltwch â'ch gyrrwr neu cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol drwy ffonio 07585997091.

Fel allwch wirfoddoli? 

Os ydych chi'n mwynhau gyrru ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn eich ardal leol, beth am wirfoddoli? Does dim rhaid ichi yrru i wirfoddoli, mae hefyd angen gwirfoddolwyr i helpu i drefnu siwrneiau arnom.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ar gyfer Ceir Cefn Gwlad, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol drwy ffonio 07585997091.

 

Teithio, Ffyrdd a Pharcio