Archwilio seddi ceir i blant

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/03/2024

A wyddech chi fod y diwrnodau archwilio seddi ceir i blant a gynhaliwyd gennym yn y gorffennol wedi amlygu bod 8 o bob 10 sedd wedi eu gosod yn anghywir?

Rydym yn cynnig gwasanaeth archwilio AM DDIM er mwyn gwirio:

  • Bod y sedd yn addas i'r cerbyd
  • Bod y sedd wedi ei gosod yn ddiogel yn y cerbyd
  • Bod y sedd yn briodol i'ch plentyn

Byddwn yn dangos sut mae gosod sedd eich plentyn yn ddiogel yn eich cerbyd, a byddwn yn rhoi canllaw manwl ichi ynghylch seddi ceir i blant. Bydd y canllaw yn rhoi cyngor ichi ynghylch pa sedd sy'n addas ar gyfer eich plentyn a beth yw'r gyfraith ynghylch y mater hwn.

Gallwch drefnu archwiliad drwy gysylltu â'r Uned Diogelwch Ffyrdd a hynny drwy ffonio 01267 228284 neu drwy anfon neges e-bost at: DiogelwchFfyrdd@sirgar.gov.uk

Teithio, Ffyrdd a Pharcio