Marchogion

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Mae gan farchogion a gyrwyr hawl i'n ffyrdd. Ond yn yr un modd, mae'r ddau yn rhannu'r cyfrifoldeb i ddeall anghenion ei gilydd.

Byddai'n well gan farchogion beidio â defnyddio'r ffyrdd bron bob amser - ond yn aml mae'n angenrheidiol er mwyn cyrraedd llwybrau ceffylau a chyfleusterau eraill oddi ar y ffordd.

Efallai na fydd yn amlwg bob amser i yrwyr pam mae marchogion a cheffylau yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud, ond mae rheswm da fel arfer.

Mae'n orfodol i blant o dan 14 oed wisgo helmed amddiffynnol wrth fynd ar gefn ceffyl ar y ffordd.

Cyfrifoldeb y rhiant, y gwarcheidwad, perchennog y ceffyl neu'r person â gofal am y ceffyl yn union cyn i blentyn ei farchogaeth yw sicrhau bod y plentyn yn gwisgo helmed sydd wedi'i chymeradwyo wrth farchogaeth ar y ffordd. Caiff plant sy'n perthyn i grefydd Sikhiaeth eu heithrio tra eu bod yn gwisgo twrban.

Mae gwisgo helmed wrth farchogaeth ar y ffordd yn orfodol i blant yn unig yn ôl y gyfraith; fodd bynnag, argymhellir yn gryf fod pob marchog yn gwisgo helmed ar y ffordd.

Mae'r dyfarniad hwn yn helpu i addysgu marchogion ynglŷn â diogelwch ffyrdd a sut i leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â marchogaeth ar y ffordd. Hwn yw'r unig brawf y gall unrhyw farchog ei sefyll a allai achub eu bywyd, bywyd eu ceffyl a bywydau defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Darganfyddwch rhagor o wybodaeth am y Dyfarniad Marchogaeth yn Ddiogel.

  • Gwisgwch het farchogaeth sy'n ffitio'n gywir ac sydd wedi'i chynhyrchu i'r safon gymeradwy gyfredol bob amser.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo esgidiau addas â sawdl solet - peidiwch byth â gwisgo esgidiau glaw nac esgidiau ymarfer.
  • Cyn cychwyn, gwnewch yn siŵr bob amser nad yw unrhyw harneisiau wedi'u torri, a bod pwythau mewn cyflwr da, yn enwedig ar ledrau gwarthol a chenglau. Gwnewch yn siŵr fod haearn y gwarthol yn ddigon mawr ar gyfer eich troed/esgid.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch ceffyl yn gwisgo dillad fflwroleuol, llachar sy'n adlewyrchu, waeth beth yw'r adeg o'r dydd, y tymor, neu'r tywydd.
  • Ewch â'ch ffôn symudol gyda chi rhag ofn y bydd argyfwng (gwnewch yn siŵr fod eich ffôn symudol wedi'i ddiffodd wrth farchogaeth). Hefyd, peidiwch â gwisgo na defnyddio unrhyw beth a all eich rhwystro rhag gweld popeth o'ch cwmpas.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych enw a rhif person y gellir cysylltu ag ef/hi mewn argyfwng, yn ogystal â manylion amdanoch chi eich hun a manylion cyswllt eich milfeddyg. Os oes angen, mae gan yr heddlu rif cyswllt arbennig hefyd ar gyfer milfeddyg mewn argyfwng.
  • Darllenwch Reolau'r Ffordd Fawr, gan dalu sylw arbennig i'r adrannau perthnasol ar gyfer marchogion.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus trydydd parti dilys y gellir ei gael gan frocer neu ddarparwr yswiriant arbenigol.
  • Dangoswch gwrteisi i ddefnyddwyr eraill y ffordd bob amser - y cyfan sydd ei angen yw gwên neu nòd i ddweud diolch oherwydd golyga hyn nad ydych yn gorfod tynnu eich dwylo oddi ar y ffrwyn. 
  • Dysgwch gymorth cyntaf sylfaenol ar gyfer y ceffyl a'r marchog.
  • Gwnewch hyfforddiant i sefyll prawf i gael Dyfarniad Marchogaeth yn Ddiogel a gydnabyddir yn genedlaethol.
  • Yn olaf, cofiwch edrych o'ch cwmpas bob amser cyn symud - gall achub bywyd.

Arafwch a chaniatewch ddigon o le wrth fynd heibio!

Yn ogystal â hynny, cofiwch:

Mae angen i yrwyr sylweddoli bod marchogion a'u ceffylau yn agored i niwed, ac mae angen iddynt ymddwyn yn ystyriol tuag atynt bob amser. Mae ceffylau'n fawr, maent yn anifeiliaid pwerus wrth natur a byddai gwrthdaro ag un yn peryglu'r ceffyl a'r marchog yn fawr yn ogystal â'r cerbyd a'i deithwyr.

Dylai gyrwyr gadw llygad am geffylau ar y ffordd, yn enwedig wrth agosáu at droeon ac wrth yrru ar ffyrdd gwledig cul. Dylent arafu bob amser wrth weld ceffyl a gyrru heibio'n araf gan roi digon o le iddynt a bod yn barod i aros os oes angen. Ni ddylai gyrwyr byth gyflymu eu hinjan neu ganu eu corn ger ceffylau.

Dylai gyrwyr fod yn ymwybodol na fydd marchogion yn symud i ganol y ffordd pan fyddant eisiau troi i'r dde, ond byddant yn aros ar yr ochr chwith tan eu bod yn cyrraedd y man lle maent yn bwriadu troi. Mae marchogion hefyd yn ymddwyn yn wahanol i draffig arall wrth gylchfannau. Ni fydd marchogion yn rhoi arwydd fel arfer wrth agosáu at gylchfan, ond byddant yn aros ar ochr chwith y gylchfan tan eu bod yn cyrraedd eu llwybr, yna byddant yn rhoi arwydd cyn troi i'r chwith. Efallai y byddant yn rhoi arwydd i'r dde wrth agosáu ac wrth fynd heibio i ffyrdd nad ydynt am eu cymryd.

Edrychwch am arwyddion gan y marchog - gallent ofyn i yrwyr arafu os ydynt yn ymwybodol o berygl - neu os ydynt yn synhwyro y bydd eu ceffyl yn ymddwyn neu'n ymateb mewn ffordd benodol.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio