Menter Lleihau Goryrru

Diweddarwyd y dudalen ar: 06/02/2024

Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â GanBwyll, Heddlu Dyfed Powys ac ysgolion i frwydro yn erbyn goryrru yn ein cymunedau a thu allan i'n hysgolion.

Yn ystod y fenter amlygir cyflymdra’r gyrwyr gan Ddyfais Dangos Cyflymdra (SID). Arwydd symudol dros dro yw SID, sy’n canfod ac yn cofnodi cyflymdra cerbyd wrth iddo nesáu, ac mae’n gweithredu i addysgu ac fel mesur ataliol.

Bydd yr Uned Plismona Ffyrdd yn stopio modurwyr sy’n gyrru dros y terfyn cyflymdra, a byddant yn cael cynnig talu dirwy a chael pwyntiau ar eu trwydded, neu gyfle i siarad â phlant yr ysgol a’n Swyddog Diogelwch Ffyrdd.

Gofynnir cyfres o gwestiynau i’r gyrwyr fydd yn dewis siarad â’r plant, ac yna bydd disgwyl iddynt esbonio’u gweithredoedd wrth y plant. Byddant hefyd yn cael clywed ffeithiau grymus ynghylch diogelwch ffyrdd, er enghraifft beth allai ddigwydd petai eu cerbyd yn bwrw plentyn. Yn olaf, rhoddir cyngor pellach i’r modurwyr a fu’n troseddu i’w gadw mewn cof.

“Os byddwch chi’n gwneud 20mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 1% y byddwch yn fy lladd; os byddwch chi’n gwneud 30mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 7% y byddwch yn fy lladd; os byddwch chi’n gwneud 40mya wrth fy mwrw i, mae cyfle o ryw 31% y byddwch yn fy lladd.”

Manteision y Fenter Lleihau Goryrru

  • Annog y modurwyr a fu’n troseddu i feddwl am ganlyniadau goryrru y tu allan i’r ysgol ac yn y gymuned ehangach.
  • Newid a gwella ymddygiad gyrwyr.
  • Newid a gwella ymddygiad gyrwyr. Addysgu plant yn ifanc ynghylch peryglon goryrru, gyda’r nod o sicrhau bod y neges wedi gwreiddio erbyn iddynt ddechrau gyrru eu hunain.
  • Amlygu cyfrifoldeb y gymuned gyfan wrth ymdrin â diogelwch ar y ffyrdd a’i gefnogi.

Mentrau Lleihau Goryrru Diweddar

Ysgol / Dyddiad / Amser Nifer y modurwyr a gafodd eu stopio Y nifer a ddewisodd siarad â’r plant
Llechyfedach
06/02/24
10.10 - 11.15
10 9
Y Tymbl
05/02/24
10.10 - 11.30
7 7
Llandybie
02/02/24
10.00 - 12.00
8 8

Teithio, Ffyrdd a Pharcio