Graeanu

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Bob blwyddyn, rydym yn gwario dros £1 filiwn y flwyddyn ar waith cynnal a chadw dros y gaeaf ar gefnffyrdd a phriffyrdd yn y sir. Taenir halen pan fo'r tywydd yn rhewllyd, a chaiff eira ei glirio yn ystod tywydd garw cyn belled ag y mae hynny'n bosibl. Y nod yw lleihau'r risg i yrwyr mewn tywydd sy'n gallu bod yn ofnadwy ar adegau. Caiff oddeutu 30% o ffyrdd eu trin fel blaenoriaeth pan fydd angen gwneud hynny o achos y tywydd.

Mae gennym fflyd o 21 o lorïau graeanu, sydd â gyrwyr profiadol tu hwnt wrth y llyw, ac sy'n trin oddeutu traean o'r 3,526 cilometr o ffyrdd yn y sir pan fo angen. Mae gennym gyflenwad o oddeutu 12,500 tunnell o halen ac mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei storio dan do mewn ysguboriau halen mewn mannau strategol ar draws y sir.

Mae ein staff wrth gefn drwy'r dydd a'r nos, saith diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, i ymateb pan fydd y tywydd a'r amgylchiadau ar y ffyrdd yn newid. Mae modd trin oddeutu 1040 cilometr o ffyrdd ar draws Sir Gaerfyrddin o fewn tair awr ar ôl cael rhybudd o dywydd gwael.

Rhoddir y brif flaenoriaeth i gefnffyrdd a phrif lwybrau: mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd trên, garejis bysiau, llwybrau bysiau pwysig, llwybrau strategol o ran teithio i'r gwaith, ffyrdd ymuno, a llwybrau dosbarthu pwysig eraill.

Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i lwybrau pwysig o ran teithio i'r gwaith, strydoedd siopa, mannau lle bu trafferthion yn y gorffennol (nad ydynt ar y llwybrau sy'n brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.

Rydym wedi cael ein penodi gan Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru i drin cefnffyrdd yn Sir Gaerfyrddin a chaiff 100% o'r cefnffyrdd eu trin pan fydd angen gwneud hynny o achos tywydd garw'r gaeaf.

Ar hyn o bryd, mae gennym 1,100 o finiau graean ledled y sir. Nid ydym yn darparu biniau graean ychwanegol, ond rydym yn gweithio gyda chynghorau tref a chymuned a chymdeithasau preswylwyr i adolygu lleoliadau biniau graean. Rydym yn archwilio ac yn llenwi pob un o'n biniau graean yn yr hydref. Os bydd eira, bydd y biniau ond yn cael eu hail-lenwi pan fydd y staff a'r offer ar gael i wneud y gwaith.

Dylid defnyddio cyn lleied â phosibl ar yr halen, oherwydd nid yw'n rhoi mwy o afael ond caiff ei ddarparu er mwyn atal rhew rhag ffurfio ac i helpu'r eira i feirioli. Darperir yr halen i'w ddefnyddio ar ffyrdd a phalmentydd cyhoeddus yn unig, ac ni ddylid ei gario a'i ddefnyddio yn unman arall. Nid ydym yn ail-lenwi biniau graean ar gais.

Nid ydym yn rhoi halen ar lwybrau troed na phalmentydd fel mater o drefn. Mae'n rhaid inni roi blaenoriaeth i'r prif ffyrdd yn hytrach na phalmentydd er mwyn atal y damweiniau mwyaf difrifol. Byddwn yn gwasgaru halen ar balmentydd â llaw dim ond os bydd staff ac offer ar gael, a byddwn yn rhoi blaenoriaeth i balmentydd yn y prif fannau siopa ac ardaloedd prysur yn y trefi. Rydym yn annog preswylwyr a busnesau i helpu'u hunain drwy glirio rhew ac eira o fannau cyhoeddus ger eu heiddo nhw.

Mae ein lorïau graeanu'n dilyn llwybr manwl, fel y gallant raeanu'r ffyrdd pwysicaf mewn ardal benodol. Wrth lunio'r llwybr manwl hwn rydym yn rhoi ystyriaeth i hyd y ffordd y gellir ei drin ar ôl llenwi'r lori â halen.

Er mwyn bod mor effeithlon â phosibl a lleihau faint o amser a gymer i raeanu'r ffyrdd, mae'n rhaid i'r lori graeanu groesi ar hyd rhai ffyrdd eraill er mwyn cyrraedd y ffyrdd pwysicaf i'w graeanu. Nid yw'n ymarferol graeanu'r ffyrdd hyn sy'n croesi gan na fyddai gan y lori graeanu ddigon o halen wedyn i drin y ffyrdd pwysicaf.

Mae'n bosibl bod y lori graeanu'n wag ac yn dychwelyd i'r depo ar ôl cwblhau ei daith raeanu.

Pan fydd lori graeanu'n defnyddio'i swch eira, ni fydd halen yn cael ei wasgaru bob tro.

Byddai'n amhosibl graeanu pob stryd yn y sir. Rhoddir blaenoriaeth i gefnffyrdd a'r prif lwybrau; mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd trên, garejis bysiau, llwybrau bysiau pwysig, ffyrdd ymuno, a mannau y gwyddom eu bod yn drafferthus.

Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i strydoedd siopa, mannau lle bu trafferthion yn y gorffennol (nad ydynt ar y llwybrau sy'n brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.

Rydym yn siŵr fod trigolion y sir yn deall mai'r peth pwysicaf pan fydd pwysau ar gyflenwadau yw cadw'r prif ffyrdd yn glir er budd y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau bysiau, sicrhau bod cyflenwadau bwyd a thanwydd yn dal i gyrraedd, a lleihau'r perygl y digwydd damweiniau.

Rydym hefyd yn ymateb i achosion brys a byddwn yn ymdrin â mân ffyrdd pan fydd y tywydd a'r cyflenwad halen yn caniatáu inni wneud hynny.

Compass Minerals, sy'n gwmni o Swydd Gaer, yw ein cyflenwr ni ynghyd â nifer mawr o'r awdurdodau lleol yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. Rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eraill er mwyn cynnal y cyflenwadau.

Maent ar gael bob awr o'r dydd a'r nos, a hynny bob diwrnod. Y tywydd sy'n pennu pryd y mae'r timau graeanu'n mynd allan, gan gynnwys gweithio'n hwyr y nos ac yn gynnar yn y bore. Rydym yn graeanu oddeutu 1040 cilometr yn ystod un sifft, sef 30 y cant o'r ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin.

Ydyn. Mae ein Cynllun Gwasanaeth Gaeaf yn gynllun sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n pennu'r blaenoriaethau a sut yr ymdrinnir â hwy. Ar ddechrau pob gaeaf, mae gennym stoc lawn o halen ac rydym yn ychwanegu at hynny pan fydd angen. Caiff y cynllun ei adolygu'n flynyddol.

Mae gennym gyflenwad o oddeutu 12,500 tunnell o halen ar ddechrau'r gaeaf, a chedwir y rhan fwyaf ohono o dan do mewn ysguboriau halen. Er bod hyn yn ymddangos yn llawer, gallwn ddefnyddio hyd at 1,000 o dunelli'r diwrnod wrth raeanu'n barhaus adeg rhew ac eira difrifol. Ni allwn byth ddweud bod gennym ddigon o halen oherwydd ni wyddom beth fydd yn digwydd yn ystod y gaeaf, ond rydym wedi paratoi'n dda iawn ac wedi cyflawni'r lefelau a argymhellir o ran ein gallu i wrthsefyll yr hyn a ddaw.

Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Gronfa Halen Cymru, sy'n penderfynu yn ôl yr angen faint o halen gaiff awdurdodau lleol pan fydd y tywydd yn arw.

Rydym yn derbyn rhagolygon y tywydd yn rheolaidd gan Metdesk UK a thaenir graean a halen os rhagwelir bod yr amgylchiadau ar y ffyrdd am fod yn wael. Hefyd rydym yn gallu cadw golwg ar y data a gesglir gan orsafoedd tywydd yn y maes sydd wedi eu gosod ar brif ffyrdd a chefnffyrdd yn rhanbarth De-orllewin Cymru.

Nodwch NAD yw halen yn cael ei daenu ar BOB ffordd yn y Sir. Os gwnaiff fwrw eira, cymerir camau ar draws y sir gyfan er mwyn ei glirio a hynny ar sail blaenoriaeth.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio