Gwneud Cais am Chwiliad Priffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Bydd chwiliad priffyrdd safonol yn darparu gwybodaeth am y canlynol mewn perthynas ag eiddo neu ffordd benodol:

  • Statws priffordd ffyrdd a enwir
  • Cynlluniau ffyrdd (o fewn 200m)
  • Cynlluniau traffig
  • Hysbysiadau sydd heb ddod i ben sy'n ymwneud â phriffyrdd
  • Gorchmynion prynu gorfodol

Beth sydd ei angen arnom ni gennych chi

I brosesu eich chwiliad, mae angen y canlynol arnom:

  • Eich cais am chwiliad
  • Cynllun sy'n amlygu'n glir y ffyrdd sydd eu hangen
  • Nid oes angen talu ffi ar hyn o bryd

Sut mae gwneud cais:

Gofynnir i chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw/Cwmni
  • Rhif Ffôn
  • E-bost
  • Cyfeiriad cyswllt
  • Cyfeiriad yr Eiddo ar gyfer y Chwiliad
  • Ffyrdd Ychwanegol (Hyd at 3 ffordd ychwanegol os oes angen)

Rydym yn ceisio ymateb i bob cais a ddaw i law drwy e-bost i Chwiliadau Priffyrdd Highwaysearches@sirgar.gov.uk o fewn 10 diwrnod gwaith.

CYFLWYNO EICH CAIS DRWY E-BOST

Teithio, Ffyrdd a Pharcio