Rhoi gwybod am beryglon Y Gaeaf

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Rhoddir blaenoriaeth i gefnffyrdd a'r prif lwybrau; mae'r rhain yn cynnwys ffyrdd sy'n arwain at ysbytai, gorsafoedd ambiwlans, gorsafoedd tân, gorsafoedd trên, garejis bysiau, llwybrau bysiau pwysig, ffyrdd ymuno, a mannau y gwyddom eu bod yn drafferthus.

Mewn tywydd eithafol, rhoddir yr ail flaenoriaeth i strydoedd siopa, mannau lle bu trafferthion yn y gorffennol (nad ydynt ar y llwybrau sy'n brif flaenoriaeth), a llwybrau bysiau eraill.

Rydym yn siŵr fod trigolion y sir yn deall mai'r peth pwysicaf pan fydd pwysau ar gyflenwadau yw cadw'r prif ffyrdd yn glir er budd y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau bysiau, sicrhau bod cyflenwadau bwyd a thanwydd yn dal i gyrraedd, a lleihau'r perygl y digwydd damweiniau.

Rydym hefyd yn ymateb i achosion brys a byddwn yn ymdrin â mân ffyrdd pan fydd y tywydd a'r cyflenwad halen yn caniatáu inni wneud hynny.

Os ydych chi'n teimlo bod amodau ar lwybr / palmant / llwybr beicio penodol yn beryglus, rhowch wybod, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Gwybodaeth fanwl am y lleoliad – ar y ffordd neu'n agos / ar ymyl y palmant a pha ochr i'r ffordd
  • Rheswm dros yr argyfwng - rhowch resymau pam y dylai'r timau graeanu drin hyn fel argyfwng
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Byddwn yn ystyried eich cais. Fodd bynnag, mae ein hadnoddau'n gyfyngedig ac er ein bod yn ystyried eich cais efallai na fydd yn bosibl cytuno arno.

RHOI GWYBOD AM BERYGLON y GAEAF

Ewch i'n tudalen we graeanu

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio