Rhoi gwybod am dwll yn y ffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 02/03/2024

I roi gwybod am dwll yn y ffordd, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad y twll yn y ffordd - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Siâp / maint - pêl golff, pêl rygbi neu maint olwyn beic
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Ni fyddwn yn ymdrin â phroblemau ar ffyrdd preifat. Bydd amserau ymateb yn amrywio gan ddibynnu ar faint, dyfnder a lleoliad y difrod. Nid oes modd atgyweirio pob twll y rhoddir gwybod amdano gan nad ydynt i gyd yn bodloni'r meini prawf. Ni fyddwn yn anwybyddu yr un adroddiad, fodd bynnag, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein cyllid ar ddiogelwch ac ni allwn fforddio datrys yr holl broblemau y rhoddir gwybod inni amdanynt.

RHOI GWYBOD AM DWLL YN Y fFORDD

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio