Rhoi gwybod am falurion / rwystr / tirlithriad

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Gallwch roi gwybod am y canlynol:

  • Disel neu betrol wedi'i ollwng
  • Mwd/Slyri
  • Anifail marw
  • Canghennau/Coed
  • Wal neu ffens wedi cwympo
  • Tirlithriad

I roi gwybod am achos, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd/ cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Disgrifiad o'r amhariad neu fater, rhowch gymaint o fanylion â phosibl.
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Roi gwybod am argyfwng sy'n achosi cryn dipyn o rwystr ac a fydd yn rhoi defnyddwyr ffyrdd mewn perygl dybryd megis:

  • Olew neu danwydd wedi gollwng
  • Ffordd wedi'r rhwystro'n llwyr
  • Tirlithriad

RHOI GWYBOD AM FALURION / RWYSTR / TIRLITHRIAD

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio